Swyddi a chyfleoedd

Rydym yn helpu pobl greadigol i ddod o hyd i swyddi creadigol. Rydym hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i gael arian, comisiynau, lleoliadau, hyfforddiant, ymhlith cyfleoedd eraill, sy’n helpu ein haelodau i dyfu a datblygu.

Os maent ar gael, hysbysebir cyfleoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nid yw Caerdydd Creadigol yn gyfrifol am ddewis iaith hysbysebwyr allanol.

cyfle:

Gynorthwyydd Cyllid

Profile picture for user Hijinx
Dyddiad cau
29.08.2025
Lleoliad
Caerdydd
Cyflog
£25,000 y flwyddyn pro-rata (£10,000 gwirioneddol)
Oriau
Part time

Postiwyd gan: Hijinx

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cyllid amryddawn i ymuno â’n tîm a helpu i gyflawni gweithrediadau cyllid llyfn, prydlon a chywir o ddydd i ddydd.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi rhediadau talu, anfonebu, cysoni, cadw llyfrau a gweinyddu ariannol ar draws Hijinx. Byddwch yn gweithio’n glos gyda’r Rheolwr Cyllid ac yn rhoi cefnogaeth ar draws prosesau ariannol mewnol ac yn wynebu’r defnyddwyr. Dyma gyfle gwych i unigolyn uchelgeisiol gyda llygad am fanylion, sy’n hoffi trefn ac â dymuniad i ddysgu a thyfu mewn tîm deinamig a chreadigol.

Darllen Mwy
cyfle:

Recriwtio Ymddiriedolwyr Papertrail

Profile picture for user Papertrail
Dyddiad cau
31.12.2025
Lleoliad
Cymru
Cyflog
Am Ddim
Oriau
Other

Postiwyd gan: Papertrail

Mae Papertrail yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd i fod yn rhan o siapio dyfodol y cwmni ym myd y theatr a straeon na chlywir yng Nghymru

Rydym yn tyrchu am straeon na chlywir a’u rhannu gyda chynulleidfa mewn ffyrdd unigryw. Mae pob cynhyrchiad yn plethu ysgrifennu beiddgar gyda llwyfanu anturus, ac yn golygu gweithio law yn llaw â chymunedau wrth greu y gwaith. Mae ein proses yn cael ei yrru gan chwilfrydedd. Rydym yn awyddus i ddod i adnabod pobl mewn lleoliadau penodol a dod o hyd i’r stori sydd angen cael ei chlywed.

Darllen Mwy
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.