Swyddi a chyfleoedd

Rydym yn helpu pobl greadigol i ddod o hyd i swyddi creadigol. Rydym hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i gael arian, comisiynau, lleoliadau, hyfforddiant, ymhlith cyfleoedd eraill, sy’n helpu ein haelodau i dyfu a datblygu.

Os maent ar gael, hysbysebir cyfleoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nid yw Caerdydd Creadigol yn gyfrifol am ddewis iaith hysbysebwyr allanol.

cyfle:

Swyddog Marchnata

Profile picture for user shermantheatre
Dyddiad cau
13.05.2025
Lleoliad
Caerdydd
Cyflog
£26,037 y flwyddyn
Oriau
Full time

Postiwyd gan: shermantheatre

Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Swyddog Marchnata i ymuno â'i thîm Cynulleidfaoedd a Chyfathrebu deinamig sy'n cyflawni i lefel uchel. Bydd y Swyddog Marchnata yn cefnogi gwaith Theatr y Sherman i gysylltu â chynulleidfaoedd ar draws y de-ddwyrain a’r tu hwnt ac i greu incwm. 

Cynigir y swydd hon fel swydd lawn amser, barhaol.

Dyddiad cau: canol dydd ddydd Mawrth 13 Mai 2025    
Cyfweliad: dydd Mercher 28 Mai 2025

Darllen Mwy
cyfle:

Rheolwr Marchnata

Profile picture for user shermantheatre
Dyddiad cau
13.05.2025
Lleoliad
Caerdydd
Cyflog
£28,719 y flwyddyn
Oriau
Full time

Postiwyd gan: shermantheatre

Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Rheolwr Marchnata i ymuno â'i thîm Cynulleidfaoedd a Chyfathrebu deinamig sy'n cyflawni i lefel uchel. Bydd y Rheolwr Marchnata yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gysylltu â chynulleidfaoedd yn y de-ddwyain a’r tu hwnt, gan gynyddu incwm ac adrodd stori’r theatr gynhyrchu flaenllaw yma.

Cynigir y swydd hon fel swydd lawn amser, barhaol.

Dyddiad cau: canol dydd ddydd Mawrth 13 Mai 2025    
Cyfweliad: dydd Mercher 21 Mai 2025

Darllen Mwy
cyfle:

Curaduron Cynorthwyol

Profile picture for user Artes Mundi
Dyddiad cau
16.05.2025
Lleoliad
Mae’r swyddi wedi’u lleoli yng nghanolbarth i ogledd Cymru a de Cymru yn y drefn honno
Cyflog
Y cyflog yw £15,000 ynghyd â chostau teithio
Oriau
Part time

Postiwyd gan: Artes Mundi

Rydyn ni am benodi dau Guradur Cynorthwyol.

Bydd y Curaduron Cynorthwyol yn gweithio gyda thîm Artes Mundi i gynllunio a chyflwyno arddangosfa AM11, sydd ar y gweill ac sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd.
Yn benodol, byddant yn cynorthwyo’r Cyfarwyddwr ym mhob agwedd ar gyflwyno’r rhaglen, yn arbennig cydlynu a pharatoi arddangosfeydd, cynllunio gosodiadau, monitro cyllidebau a chyfrannu at ddigwyddiadau a mentrau rhaglennu cyhoeddus.

Darllen Mwy
cyfle:

Pennaeth Perfformio Drama

Dyddiad cau
19.05.2025
Lleoliad
Caerdydd
Cyflog
£68,528 - £74,867
Oriau
Full time

Postiwyd gan: lornahooper

Am y rôl

Mae’r swydd yn cyflawni rôl Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Richard Burton, gan gynllunio, ar y cyd â thimau ehangach actio, theatr gerddorol a drama, repertoire heriol, amrywiol a phwrpasol ar gyfer perfformiadau drama ar draws Actio a Theatr Gerddorol o’r ansawdd uchaf posibl ac sy’n adlewyrchu cyd-destun CBCDC yng Nghymru.  Bydd y rôl yn gweithio fel aelod allweddol o Grŵp Cynllunio Artistig y Coleg i sicrhau rhaglen gyhoeddus arloesol mewn Drama yn gyffredinol sy’n cyd-fynd ag amcanion strategol CBCDC.

Darllen Mwy
cyfle:

📚 Children’s Book Cover Designer and Illustrator Wanted

Profile picture for user TheDisabledWriter
Dyddiad cau
31.05.2025
Lleoliad
Cardiff
Cyflog
Negotiable
Oriau
Other

Postiwyd gan: TheDisabledWriter

I'm looking for a children's book cover designer and illustrator to work with me on my latest children's book about disability. It's a magical story about strength beyond limits, aimed at children aged 9–12, with strong themes of inclusion, empowerment, and acceptance.

This is my first time self-formatting and self-publishing, so I'd appreciate a designer who can be patient, collaborative, and supportive throughout the process.

What I need:

  • Front and back cover designs for both print and ebook formats.

Darllen Mwy
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event