Goruchwylydd Bwyd a Diod Achlysurol

Cyflog
£12.50
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
23.01.2025
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 9 January 2025

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Goruchwylydd Bwyd a Diod Achlysurol

Cyflog:£12.50 yr awr

Dyddiad Cau:23/01/2025

Dyddiad Cyfweld:

Amdanom ni/Ein Hadran:

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Fel lleoliad rydym yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos, pob dydd ac eithrio dydd Nadolig. Mae ein hadran Bwyd a Diod wedi mynd trwy gyfnod o newid sylweddol yn ystod y chwe mis diwethaf, gyda thri bar newydd wedi agor, pob un yn cynnig hunaniaeth, gwasanaeth a chynnig gwahanol, gan ddarparu cyfle sylweddol ar gyfer tyfiant.


Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.

  • Dyma gyfle newydd cyffrous i ymuno â’n tîm bwyd a diod, sy'n ehangu yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae gennym nifer o fariau ar waith ar unrhyw un adeg sy’n rhoi pleser i’n hymwelwyr ac yn tanio dychymyg.
  • Rydym yn chwilio am fodel rôl ar gyfer ein gwasanaeth cwsmeriaid, unigolyn a fydd yn mwynhau bodloni anghenion ein cwsmeriaid a syfrdanu ein hymwelwyr.
  • Boed yn ein caffi/bar, Ffwrnais, sydd yn hyrwyddo’r cynnyrch Cymreig gorau neu noson wych yn Cabaret, mae gennym ni rywbeth ar gyfer pawb yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gyda thyfiant pellach cyffrous i ddod yn ddiweddarach eleni.


Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

  • Bydd eich rôl yn amrywiol ac ni fydd dau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn goruchwylio ein tîm Bwyd a Diod ar draws y Ganolfan, gan sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid anhygoel, yn cyfathrebu’r disgwyliadau hynny’n glir ac yn effeithlon, yn gweithio’n effeithiol ochr yn ochr â’ch cyd-oruchwylwyr, yn datrys materion a godwyd gan gwsmeriaid yn ogystal â delio gyda thasgau dydd i ddydd fel archebu stoc, trin arian parod a.y.b.
  • Yn atebol i'r Rheolwr Bwyd a Diod, byddwch yn cymryd rôl weithredol wrth ddod ag awgrymiadau neu atebion i'r bwrdd.
  • Mae argaeledd gyda'r nos ac ar benwythnosau yn hanfodol ond, fel aelod o’r tîm achlysurol, bydd gennych hyblygrwydd i sicrhau cydbwysedd hanfodol rhwng bywyd a gwaith.

  • Gofynion Allweddol:
    Profiad amlwg o weithio/goruchwylio timau mewn busnesau cyfaint uchel.
  • Gallu gweithio patrymau shifft hyblyg. Mae argaeledd ar benwythnosau a gyda'r nos yn hanfodol.
  • Sgiliau rheoli pobl ragorol gydag agwedd arbennig tuag at wasanaeth cwsmeriaid.
  • Byddai gallu amlwg i arwain yn fanteisiol.·Gwybodaeth gyfredol am dueddiadau ac arferion gorau bwyd a diod.
  • Y gallu i beidio â chynhyrfu dan bwysau.
  • Gallu i reoli’ch hunan.


Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • Cyflogwr cyflog byw go iawn
  • Mynediad i bensiwn Now·Hyblygrwydd o ran oriau gwaith – dewiswch y shifftiau/oriau sy'n gweithio o amgylch eich bywyd personol a'ch ymrwymiadau
  • Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Cynghreiriaid a chefnogaeth iechyd meddwl·Gostyngiad o 20% yng nghaffis a bwytai’r Ganolfan
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event