Wrth iddynt ddathlu pen-blwydd eu prosiect yn ddeg oed, mae i weld yn amser da i fyfyrio ar faint mae pobl greadigol wedi cyfrannu at gyd-ddarganfod gorffennol Caerau a Threlái - gan hwyluso a dathlu'r darganfyddiad hwnnw bob cam o'r ffordd!
Archwilia cyd-gyfarwyddwr treftadaeth CAER, Dr David Wyatt, taith greadigol y prosiect hyd yma. Cliciwch isod i i ddefnyddio'r llyfr fflip:
Bydd Caerdydd Creadigol yn gweithio ar y cyd â threftadaeth CAER i gyd-gynhyrchu wal bortread ar gyfer canolfan gymunedol newydd Bryngaer Gudd Treftadaeth CAER - sydd i fod i agor Hydref 2021 a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y wal yn cynnwys portreadau o lawer o'r bobl sydd wrth wraidd stori'r prosiect a bydd artistiaid preswyl CAER yn dod â nhw'n fyw.
Byddwn hefyd yn gwahodd preswylwyr Caerau a Threlái ac aelodau o rwydwaith Caerdydd Creadigol i gymryd rhan mewn dosbarth meistr celf gyda'r cyfle i gyd-greu gwaith celf ar gyfer y ganolfan dreftadaeth. Rhagor o wybodaeth am y dosbarth meistr a sut gallwch gymryd rhan.