Yn y bennod hon, ry’n ni’n trafod iechyd meddwl yn y sector creadigol.
Mae Sian Gale yn Rheolwr Sgiliau a Datblygu yn CULT Cymru - sef undebau creadigol yn dysgu gyda’i gilydd - ac yn rhedeg cyrsiau Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl.
Mae Heledd Owen yn ddarlunydd sydd wedi dechrau busnes ei hun ers y cyfnod clo. Mae’n rhannu positifrwydd ac yn siarad yn onest am iechyd meddwl trwy ei chyfrifon cymdeithasol.
Tra bod 1 mewn 4 o bobol yn y Deyrnas Unedig yn dioddef o salwch iechyd meddwl bob blwyddyn, mae gweithwyr yn y sector creadigol tair gwaith mwy debygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl.
Rhannodd Sian rhai o’r problemau sy’n wynebu pobl yn y sector creadigol sydd yn gallu effeithio ar eu hiechyd meddwl:
Yn ein adroddiad diwetha’ ni, State of Play, mae 68% o bobl yn y diwydiant teledu wedi dweud bod nhw wedi meddwl gadael y diwydiant achos y straen, yr oriau hir, a’r diffyg parch maen nhw’n teimlo maen nhw’n cael ar rai cynyrchiadau, y diffyg cyllid ar rai cynyrchiadau... Wel dyw hwnna ddim yn dda i iechyd meddwl unrhyw un.
Siaradodd Heledd am y ffordd mae iechyd meddwl yn dylanwadu ar ei gwaith celf hi: “Achos bo’ fi ‘di cael profiadau efo fy iechyd meddwl yn y gorffennol, oedd e’n bwysig iawn i fi bo’ fi’n defnyddio fy ngwaith i rannu positifrwydd a negeseuon. Jest i gefnogi pobl.”
Recordiwyd y bennod hon yn Awst 2021.
Gwrandewch ar y bennod llawn
iTunes:
Spotify:
Soniwyd amdano yn ystod y bennod
Mae’r wefan hon yn le i gael cefnogaeth, gwybodaeth a phrofiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mind Cymru
yr elusen iechyd meddwl. - State of Play addrodiad
- CULT Cymru
- Heledd Owen
Gwrandewch i fwy o benodau Rhywbeth Creadigol yma.