Rydym yn chwilio am Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu greddfol, llawn cymhelliant a deinamig i ymuno â'n tîm prysur.
Mae NoFit State yn gwmni syrcas gyfoes sydd ag enw da yn rhyngwladol. Bob blwyddyn, mae’r cwmni’n mynd â chynyrchiadau ar daith yn ei Babell Fawr ac yn perfformio mewn theatrau a safleoedd awyr-agored ledled Prydain a thramor. Yng nghartref y cwmni yng Nghaerdydd, cynhelir rhaglen o ddosbarthiadau a phrosiectau proffesiynol a chymunedol trwy gydol y flwyddyn a darperir cyfleusterau ar gyfer nifer o gwmnïau ac artistiaid annibynnol sy’n ymweld.
Fel Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu mae cadarnhau a chi eu meithrin enw da’r cwmni a’i broffil. Sicrhau bod pob rhan o’r rhaglen yn cyrraedd targedau presenoldeb a chyfranogiad trwy ddatgan pwy ydym a beth rydym yn ei wneud a thrwy hyrwyddo ein gwaith wrth bartneriaid cyflwyno, cynulleidfaoedd, cyfranogwyr a rhanddeiliaid ar draws pob platfform.
Os hoffech ymgeisio https://www.nofitstate.org/gyrfaoedd
Oriau Gwaith: Swydd lawn amser
Cyflog: £31,000 - £32,5000
Lleoliad: Caerdydd
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am, dydd Mawrth 17 Mehefin 2025
Ymunwch â ni!
Mae NoFit State yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.
Os oes arnoch angen fformat gwahanol neu help â’r broses ymgeisio oherwydd anghenion penodol, cysylltwch â lizzy@nofitstate.org neu ffonio 02921 321 026