Yn S4C, rydyn ni'n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae S4C yn chwiloi am Brif Swyddog Technegol, i chwarae rhan ganolog wrth lunio a chyflawni ein strategaeth ddigidol a thechnolegol i gefnogi ein cenhadaeth a'n twf yn y dyfodol. Mae hon yn swydd arwain allweddol, a bydd ei deiliad yn gyfrifol am sbarduno arloesedd, sicrhau seilwaith technoleg cadarn a diogel, a gofalu bod atebion technegol yn cyd-fynd â nodau busnes. Rydym yn chwilio am arweinydd â gweledigaeth sydd ag arbenigedd technegol cryf a meddylfryd cydweithredol, person a fydd yn gallu ysbrydoli timau, rheoli partneriaethau technoleg allweddol a'n helpu ni i ddefnyddio technoleg i wasanaethu ein cynulleidfaoedd mewn ffyrdd newydd a diddorol.
Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, ond byddent yn fanteisiol. Rydym yn falch o fod yn ddarlledwr Cymraeg ac rydym yn disgwyl i holl aelodau'r tîm werthfawrogi a pharchu'r iaith a'r diwylliant. Rydym yn cefnogi ac yn annog dysgu Cymraeg yn y gweithle, ac rydym yn chwilio am rywun sy'n agored i ddatblygu eu dealltwriaeth a'u gwerthfawrogiad o'r iaith fel rhan o'u taith gyda ni.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin o bryd i'w gilydd.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, ac i wybod mwy, cysylltwch a'r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant - nadine.beaton@s4c.cymru.