Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal cyfarfod misol i artistiaid, busnesau, a chyfreithwyr creadigol o’r enw ‘Paned i Ysbrydoli’. Mae’r digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â’r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tri C pwysig: cysylltu, creadigrwydd, a chaffein. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs arddull TED ar bwnc sy’n berthnasol ar draws pob sector creadigol, ac yna awr anffurfiol i gysylltu â phobl eraill dros gacen a sgwrs.
Ymunwch â ni ar gyfer Paned i Ysbrydoli mis Mawrth yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yn Nhreganna, lle byddwn yn archwilio’r thema ‘Creu Cynnwys Dwyieithog. Siaradwr i'w gadarnhau.
Mae cydweithio a rhwydweithio wrth galon yr hyn a wnawn yng Nghaerdydd Creadigol, gan ein bod yn credu bod diwydiant mwy cysylltiedig yn un mwy gwydn. P’un a ydych newydd ddechrau neu wedi bod yn rhan o’r sector creadigol ers blynyddoedd, mae’r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle i feithrin perthnasoedd, rhannu gwybodaeth, a darganfod cyfleoedd newydd.