Paned i Ysbrydoli Mai

22/05/2025 - 10:00
Tramshed Tech, Caerdydd
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Ymunwch â ni i gwrdd, cysylltu a dysgu gan pobl greadigol eraill, boed eich bod newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau, yn ein Paned i Ysbrydoli misol.

Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal Paned i Ysbrydoli, sef cyfle i artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol ddod ynghyd. Mae’r digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â’r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tri C pwysig – cysylltu, creadigrwydd a chaffein.

Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs ardull 'TED-talk' ar bwnc sy’n berthnasol ar draws pob sector creadigol, ac yna awr anffurfiol i feithrin perthnasoedd, rhannu gwybodaeth ac archwilio cyfleoedd newydd.

Thema Mai: Ariannu a chodi arian

Y mis hwn, bydd Dr Jess Hoare a Hilary Farr yn ymuno â ni ar y testun 'Mynediad at gyllid'.

Mae Jess yn ymchwilydd ac yn weithiwr treftadaeth profiadol gyda dros ddegawd o brofiad yn gweithio ar y groesffordd rhwng diwydiannau creadigol, technolegau datblygol, a chynhwysiant. Mae Jess wedi gweithio gyda sefydliadau fel Cyngor Celfyddydau Lloegr, Amgueddfa Cymru, a Nesta, ac ar hyn o bryd mae hi’n arwain ymchwil yn Media Cymru sy’n canolbwyntio ar wella tegwch a mynediad o fewn y sector creadigol. Mae hi hefyd yn gwasanaethu ar y Bwrdd Ymgynghorol ar gyfer Datblygu Amgueddfeydd De Orllewin Lloegr, lle mae'n cynghori ar raglenni ariannu a gwerthuso. Bydd Jess yn rhannu mewnwelediadau ymarferol i wneud cais am gyllid, yr hyn y mae cyllidwyr yn chwilio amdano, a sut i wneud i'ch cais sefyll allan.

Hilary yw Swyddog Datblygu Cyngor Celfyddydau Cymru a bydd yn rhoi cipolwg ar ba gronfeydd sydd ar gael ar hyn o bryd a pha gronfeydd fydd yn agor yn fuan.

Cofrestrwch yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.