Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Uwch Reolwr/wraig Digwyddiadau Masnachol
Cyflog: £35,567
Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos
Math o Gytundeb : Parhaol, oriau blynyddol
Dyddiad Cau: 25 Ebrill 2025
Dyddiad Cyfweld: 6/7 Mai 2025
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae gan y tîm Digwyddiadau Masnachol rôl newydd cyffrous ar gyfer arweinydd profiadol i ymuno â ni fel Uwch Reolwr/wraig Digwyddiadau Masnachol.
Fel tîm, rydym newydd gwblhau ein blwyddyn fwyaf cyffrous hyd yma, gan lansio cinio Gala flaenllaw ar gyfer pen-blwydd CMC yn 20 oed, ynghyd â dathliad pen-blwydd cyntaf Ffwrnais, ein gofod newydd sbon. Wrth i CMC gyrraedd ei 21ain blwyddyn, mae gennym ni gynlluniau cyffrous sy’n cynnwys lansio siop manwerthu newydd, datblygu lleoliad awyr agored a fydd yn ganolbwynt i Fae Caerdydd yn haf 2026, yn ogystal â thyfu ein portffolio o ddigwyddiadau masnachol.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
Bydd yr Uwch Reolwr/wraig Digwyddiadau Masnachol yn atebol i'r Pennaeth Gweithrediadau Cwsmeriaid ac yn arwain wrth ddatblygu strategaeth fasnachol, gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau allanol a gyrru refeniw masnachol trwy wneud defnydd llawn o'r holl fannau sydd ar gael yn y Ganolfan.
Bydd y rôl hon yn gyfrifol am yrru'r tîm digwyddiadau masnachol i gyrraedd targedau a dangosyddion perfformiad allweddol yn llwyddiannus. Fel yr Uwch Reolwr/wraig Digwyddiadau Masnachol, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli perthnasoedd holl gleientiaid digwyddiadau allanol, gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer cleientiaid drwy gydol y broses archebu a goruchwylio perthnasoedd y timau.
Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.
Gofynion Allweddol:
- Profiad amlwg mewn Rheoli Digwyddiadau ar lefel uwch, gyda phortffolio tystiolaethol o ddigwyddiadau proffil uchel ac adborth cadarnhaol gan gleientiaid.
- Craffter busnes cryf i negydu a gwneud y mwyaf o enillion NET o ddigwyddiadau a gweithgareddau gyda thwf flwyddyn ar ôl blwyddyn.
- Profiad o reoli perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn eu cynnal ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol.
- Y gallu i amldasgio a blaenoriaethu llwyth gwaith gan gymryd cyfrifoldeb am reoli amser a chleientiaid.
- Gweithio wythnos waith 35 awr yn unol ag anghenion digwyddiadau a allai olygu gweithio'n hwyr yn y nos ac ar benwythnosau.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser. ·Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
- Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredol).
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.