Ydych chi’n gyfathrebwr creadigol gyda’r ddawn i ysgrifennu cynnwys diddorol?
Byddwch yn creu cynnwys ysgogol ar gyfer amrywiaeth o sianeli cyfathrebu, gan gynnwys cyfryngau print, cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Comisiynydd sy’n codi ymwybyddiaeth o rôl a gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur, agwedd greadigol ac arloesol tuag at ysgrifennu deunydd a dealltwriaeth o amgylchedd gwleidyddol Cymru.
Dyma eich cyfle i ddefnyddio eich sgiliau a’ch creadigrwydd i gael effaith go iawn. Os ydych chi’n frwd dros adrodd straeon ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, hoffem glywed oddi wrthych.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.