Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn chwilio am Reolwr Llwyfan profiadol i ymuno â Chynhyrchiad Cwmni 2025 Next Up.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sy'n nodi eu bod yn dod o gefndir mwyafrif byd-eang.
Mae Cwmni Next Up yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn brosiect cydweithredol sy'n gweithio gyda chast o berfformwyr ifanc trwy ddatblygu darn o Theatr Hip Hop i'w berfformio yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 25ain a 26ain Ebrill 2025. Bydd y perfformiad yn archwilio materion sy'n bwysig i bobl ifanc. Yn ystod penwythnos y sioe byddwn yn cynnal digwyddiad Dros Nos Sleepover yn y ganolfan i bobl ifanc ac yn ystod y 27ain o Ebrill bydd gweithdai ymateb creadigol mewn nifer o safleoedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau cyflwyniad llwyddiannus o Gynhyrchiad Cwmni Next Up.
Dyddiadau gofynnol: Cyfarfodydd Cynhyrchu (Fesul Awr) W/D 17eg Chwefror W/D 10fed Mawrth W/D 24ain Mawrth W/D 7fed Ebrill
Cyfnod Dwys y Cynhyrchiad: - Dydd Sadwrn 19eg Ebrill - Dydd Sul 20fed Ebrill - Dydd Llun 21ain Ebrill - Dydd Mawrth 22ain Ebrill - Dydd Mercher 23ain Ebrill - Dydd Iau 24ain Ebrill - Dydd Gwener 25ain Ebrill (Perfformiad) - Dydd Sadwrn 26ain Ebrill (Perfformiad) - Dydd Sul 27ain Ebrill (Dros Nos – Gweithdai Ymateb Creadigol)
Prif Bwrpas:
Sicrhau rheolaeth effeithlon a phroffesiynol o weithrediadau llwyfan ar gyfer Cynhyrchiad Cwmni Next Up, trwy gyfrannu at brofiad cynhyrchu o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd tra'n cefnogi'r timau artistig a thechnegol. Mae'r Rheolwr Llwyfan yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod holl elfennau'r cynhyrchiad yn cael eu cydlynu’n esmwyth, gan sicrhau bod ymarferion a pherfformiadau yn rhedeg yn llwyddiannus ac yn bodloni'r safonau uchaf o ymarfer theatr.
Atebolrwydd Arbenigol:
Rheoli pob agwedd ar weithrediadau llwyfan ar gyfer y cynhyrchiad.
Cydlynu gyda pherfformwyr, timau technegol, a rheolwyr cynhyrchu i sicrhau trawsnewid llyfn a glynu wrth amserlenni.
Goruchwylio a gweithredu amserlenni cynhyrchu, gan sicrhau cydymffurfiaeth â'r oriau gwaith a'r amodau sydd wedi eu cytuno.
Cynnal safonau uchel o broffesiynoldeb a sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a chanllawiau cynhyrchu.
Hwyluso ymarferion a pherfformiadau, gan gynnwys goruchwylio ymarferion technegol, get-ins, a get-outs.
Gofynion Ymgeisydd:
Profiad y mae posib ei brofi fel Rheolwr Llwyfan mewn theatr broffesiynol.
Sgiliau trefnu, cyfathrebu a datrys problemau cadarn.
Y gallu i gydweithio ac addasu i amserlenni deinamig.
Gwybodaeth am ganllawiau Ecwiti a safonau'r diwydiant.