Yn 2025, bydd Artes Mundi yn lansio AM11, ein unfed ar ddeg arddangosfa a gwobr bob dwy flynedd, gan ddathlu 21 mlynedd o gyflwyno celf gyfoes ryngwladol arloesol yng Nghymru. Fel ail fersiwn y prosiect ar draws Cymru, bydd AM11 yn cael ei gynnal ar draws pedair trefi a dinasoedd gyda phum partner lleoliad. Er mwyn gwireddu’r prosiect uchelgeisiol hwn, ynghyd â’r rhaglen gyffredinol, mae angen codi llawer iawn o arian.
Gan weithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr, mae’r Rheolwr Datblygu yn gyfrifol am y swydd allweddol o gyflawni a gweinyddu anghenion datblygu Artes Mundi, gan gynnwys aelodaeth, rhoddwyr, ymgyrchoedd rhoi arian blynyddol a gwaith gydag ymddiriedolaethau, sefydliadau, cefnogwyr o’r llywodraeth, cyrff corfforaethol ac unigolion yng nghyd-destun cynllun codi arian amrywiol sy’n cyfrannu’n strategol at Genhadaeth Artes Mundi. Bydd y Rheolwr Datblygu yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwr i ysgrifennu grantiau a gweithredu ymgyrchoedd, digwyddiadau a chynigion ar gyfer sefydliadau ac ymddiriedolaethau i gael cyfleoedd am nawdd, digwyddiadau rhoi corfforaethol, llywodraethol ac unigol blynyddol/wedi’u cynllunio, rhoddion unigol a meithrin/stiwardiaeth. Bydd yn gwneud hyn drwy ddefnyddio ymddiriedolaethau, sefydliadau a rhoddwyr presennol a newydd, ynghyd â chronfeydd data, cysylltiadau ac opsiynau eraill. Bydd angen gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd. Gan weithio gyda Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac aelodau o’r tîm ehangach, bydd y Rheolwr Datblygu yn sicrhau ac yn rheoli’r cymorth a geir gan ffynonellau yn y sector cyhoeddus a phreifat a bydd yn creu cysylltiadau tymor hir i sicrhau cynaliadwyedd y sefydliad.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw:
Dydd Llun 24 Chwefror 2025
Cynhelir y cyfweliadau (i’w gadarnhau):
yng Nghaerdydd, yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun
10 Mawrth 2025
Y dyddiad dechrau delfrydol:
Cyn gynted â phosibl (er y bydd modd trafod hyn yn y cyfweliad)