Am y rôl
Mae’r swydd yn cyflawni rôl Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Richard Burton, gan gynllunio, ar y cyd â thimau ehangach actio, theatr gerddorol a drama, repertoire heriol, amrywiol a phwrpasol ar gyfer perfformiadau drama ar draws Actio a Theatr Gerddorol o’r ansawdd uchaf posibl ac sy’n adlewyrchu cyd-destun CBCDC yng Nghymru. Bydd y rôl yn gweithio fel aelod allweddol o Grŵp Cynllunio Artistig y Coleg i sicrhau rhaglen gyhoeddus arloesol mewn Drama yn gyffredinol sy’n cyd-fynd ag amcanion strategol CBCDC.
Mae deiliad y swydd yn goruchwylio graddau Actio a Theatr Gerddorol ac mae ganddynt gyfrifoldeb cyffredinol am ddarparu amgylchedd dysgu ar gyfer myfyrwyr Actio a Theatr Gerddorol sy’n cynnig pob cyfle i ddatblygu eu potensial trwy weithio ar draws ystod o amgylcheddau proffesiynol. Byddant hefyd yn goruchwylio dechrau cyfres newydd o gyrsiau Meistr yn y Celfyddydau Cain mewn Cyfarwyddo, Ysgrifennu, Symud a Llais.
Agwedd allweddol o’r rôl fydd ystyried arloesi pellach o fewn y portffolio o gyrsiau, gan ymateb i newidiadau yn y diwydiannau, cyfleoedd digidol a sgrin, ac ymarfer rhyngddisgyblaethol a chydweithredol gan gynnwys gyda cherddoriaeth. Mae'r Pennaeth Perfformio Drama yn gyfrifol am ddatblygu proffil y Coleg, partneriaethau diwydiant a chyfranogiad mewn rhwydweithiau perthnasol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol; ac am hyrwyddo strategaethau ehangu mynediad, recriwtio a chynwysoldeb yr adran.
Am y coleg
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn lle i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob math o gefndiroedd a phrofiad. Mae’r Coleg yn denu’r dalent greadigol orau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn sbarduno arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, dylunwyr, technegwyr a rheolwyr y celfyddydau o fwy na 30 o wledydd. Mae talent a photensial eithriadol ein myfyrwyr yn cael eu hasio ag addysgu eithriadol a chysylltiadau heb eu hail mewn diwydiant, er mwyn gwireddu breuddwydion. Mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i'n rhagoriaeth.
Caiff ein myfyrwyr eu trwytho mewn amgylchedd diwydiant byw o'r eiliad y maent yn cyrraedd. Ar y cyd â rhai o leoliadau mwyaf mawreddog Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen berfformio o weithwyr proffesiynol o'r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant y myfyrwyr. Rydym yn meithrin ein darpar weithwyr proffesiynol fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu nod yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae'r dyfodol yn dechrau fan yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, y rhai sy'n hunanadnabod fel anabl, niwroamrywiol a thrawsrywiol, ac unigolion Cymraeg eu hiaith yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o'r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae'r Coleg wedi ymrwymo i'w Strategaeth y Gymraeg a Diwylliant Cymru a bydd yn cynnig cymorth a hyfforddiant i'r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.
Rydym yn cynnig nifer o fuddion i weithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn ardderchog a gwyliau blynyddol hael. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 19/05/2025
Dyddiad cyfweliad cam cyntaf: 29/05/2025
Dyddiad cyfweliad ail gam: 05/06/2025
Ar gyfer sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Helena.gaunt@rwcmd.ac.uk