Mae Climate Cymru yn chwilio am gyfathrebwr strategol i arwain y prosiect newid naratif arloesol Imagine Action, ac i lunio a chyflawni ein strategaeth gyfathrebu.
Fel Pennaeth Cyfathrebu a Newid Naratif, byddwch yn ysbrydoli gweithredu ar hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol trwy newid naratifau yn strategol, trwy adrodd straeon cymhellol ac ehangu lleisiau lleol. Byddwch yn gweithio i greu gwerth ac yn helpu i ddatgloi potensial rhwydwaith o 380+ o bartneriaid a rheoli tîm talentog. Dyma gyfle unigryw i chwarae rhan ganolog mewn mudiad sy’n creu dyfodol tecach, gwyrddach i Gymru a thu hwnt.
Lleoliad: O bell, gyda’r opsiwn o waith swyddfa yng Nghaerdydd.
Cytundeb: Llawn amser, 2 flynedd.
Cyflog: £39,130 pro rata a phensiwn.
Dyddiad cau: 20 Ionawr 2025, 9 AM.
Mwy o wybodaeth: Ddisgrifiad Swydd
Mae prosiect Imagine Action yn cael ei ariannu gan y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.