Gweithdai taro a pherfformio arbrofol i bobl ifanc 16-30 oed

11/01/2025 - 14:00
Chapter
Profile picture for user Chapter Arts Centre

Postiwyd gan: Chapter Arts Centre

https://www.chapter.org/about/contact-us

Cyfres o weithdai taro a pherfformio arbrofol i bobl ifanc 16-30 oed i archwilio a dathlu cyd-botensial creadigol. Wedi’i hwyluso gan ein hartist preswyl, Dan Johnson.  

Gan ddod ag offerynnau taro, symud, chwarae, gwaith tîm, a thechnegau gwrando at ei gilydd, mae’r gweithdai yma’n gyfle i ddysgu a pherfformio fel grŵp mewn awyrgylch tyner a chynhwysol.  

Dyddiadau

11, 18, 25 Ionawr
1, 8, 15, 22 Chwefror
1, 8, 15 Mawrth

Nid oes angen profiad blaenorol. Bydd offerynnau’n cael eu darparu, ond anogwn y cyfranogwyr i ddod â’u rhai nhw os allan nhw.

Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, cysylltwch â kit.edwards@chapter.org ac fe wnawn ni’n gorau i wneud addasiadau.

Dau weithdy blasu byr fydd y sesiwn gyntaf, ddydd Sadwrn 11 Ionawr ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed rhwng 2-3pm a phobl ifanc 19-30 oed rhwng 3.30-4.30pm. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cynnig arni, cofrestrwch ar gyfer y dyddiad hwnnw ac fe wnawn ni gysylltu â chi i gadarnhau eich grŵp. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event