Cyfres o weithdai taro a pherfformio arbrofol i bobl ifanc 16-30 oed i archwilio a dathlu cyd-botensial creadigol. Wedi’i hwyluso gan ein hartist preswyl, Dan Johnson.
Gan ddod ag offerynnau taro, symud, chwarae, gwaith tîm, a thechnegau gwrando at ei gilydd, mae’r gweithdai yma’n gyfle i ddysgu a pherfformio fel grŵp mewn awyrgylch tyner a chynhwysol.
Dyddiadau
11, 18, 25 Ionawr
1, 8, 15, 22 Chwefror
1, 8, 15 Mawrth
Nid oes angen profiad blaenorol. Bydd offerynnau’n cael eu darparu, ond anogwn y cyfranogwyr i ddod â’u rhai nhw os allan nhw.
Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, cysylltwch â kit.edwards@chapter.org ac fe wnawn ni’n gorau i wneud addasiadau.
Dau weithdy blasu byr fydd y sesiwn gyntaf, ddydd Sadwrn 11 Ionawr ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed rhwng 2-3pm a phobl ifanc 19-30 oed rhwng 3.30-4.30pm. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cynnig arni, cofrestrwch ar gyfer y dyddiad hwnnw ac fe wnawn ni gysylltu â chi i gadarnhau eich grŵp.