Mis Mai yng Nghaerdydd Creadigol - Cyllid a chodi arian

Wrth i fis Mai dirwyn i ben, mae’n anodd credu ein bod eisoes ar ein ffordd i chweched mis 2025. Mae amser a’r sector yn symud yn gyflym, ond rydym wedi bod yn brysur yn cefnogi pobl greadigol, sbarduno sgyrsiau, ac archwilio’r thema ariannu a chodi arian ar draws ein gwaith.

Drwy gydol mis Mai rydym wedi edrych ar yr hyn y mae’n ei olygu i gael mynediad at adnoddau a’u rhannu yn y sector creadigol – o ysgrifennu ceisiadau, i wirfoddoli gydag elusennau a mynychu arddangosfeydd a gefnogir gan gyllidwyr allweddol.

Mae’n bleser gennym hefyd groesawu dau aelod newydd o’r tîm a fydd yn cefnogi ein gwaith drwy gydol yr haf. Mae eu syniadau ffres a’u hegni eisoes yn helpu i adeiladu momentwm ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn weddill bywiog a chyffrous o’r flwyddyn!

funding and fundraising collage

Tori Sillman (Swyddog Cynnwys Digidol)

I mi, cychwynnodd Mai drwy gynllunio rhai pethau cyffrous ar gyfer y dyfodol gyda thîm Caerdydd Creadigol. Cefais hwyl fawr wrth wirfoddoli gydag Anthem, Cronfa Gerddoriaeth Cymru, mewn cyngerdd yn Utilita Arena ochr yn ochr â John; hefyd, ar hyn o bryd rwy’n cyfrannu at ymgyrch codi arian ar gyfer y rhai sy’n awyddus i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer mynediad gwell at gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru. Mae’n siapio i fod yn sialens hyfryd i gefnogwyr creadigol sy’n caru her!

John and tori fundraising

Yn ogystal, braf oedd gweld cymaint o bobl yn mynychu’r Paned i Ysbrydoli diweddaraf, dan arweiniad Dr Jess Hoare o Media Cymru a Hilary Farr o Gyngor Celfyddydau Cymru. Sbardunodd y sesiwn hon gysylltiadau a sgyrsiau pwysig o fewn y gymuned greadigol. Gall fod yn anodd trafod arian, yn enwedig yn y celfyddydau... felly mae'r tryloywder hwn a'r cyfle ar gyfer sgyrsiau go iawn yn hynod bwysig. 

Sgroliwch i lawr i glywed gan John a Carys, ac i gwrdd â'n haelodau tîm newydd!

John Evans (Swyddog Prosiectau a Digwyddiadau)

Fe wnaeth y mis hwn fy atgoffa nad yw cyllid yn unig yn ymwneud ag agor drysau’n ond sicrhau bod pawb yn gallu dod drwyddynt. Boed yn ymgyrch codi arian yn lleol neu’n arddangosfa a gefnogir yn rhyngwladol, yn aml mae angen mwy nag angerdd yn unig ar gyfer gwaith da – mae angen pobl (a chyllid!) y tu ôl iddo. 

Cefais y pleser o wirfoddoli gydag Anthem, elusen datblygu cerddoriaeth, ochr yn ochr â fy nghydweithiwr Tori, drwy helpu i godi arian ar gyfer mudiad sy'n ymroddedig i bobl ifanc a cherddoriaeth yng Nghymru. Ac yn DIVERGE y mis hwn (ein diwrnod cydweithio misol ar gyfer pobl greadigol niwroddargyfeiriol), clywsom sgwrs amser cinio gwych gan Karn John, artist o orllewin Cymru sydd ar hyn o bryd yn datblygu gwaith newydd gyda chefnogaeth cyllid Camau Creadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Darllenwch mwy am waith Karn. Roedd yn wych clywed gan rywun oedd yn llywio’r dirwedd ariannu.

Yn olaf, bûm yn ffodus i fynychu rhagflas o arddangosfa newydd Syr John Akomfrah, Listening All Night to the Rain, Amgueddfa Cymru, y stop cyntaf yn y DU ar gyfer y sioe yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf yn Biennale Fenis 2024. Wedi’i chyflwyno gan Amgueddfa Cymru, Y Cyngor Prydeinig, ac (addas iawn i’n thema…) Art Fund, mae’r arddangosfa’n bwerus, yn fyfyriol, ac yn ein hatgoffa pam mae cefnogi celf feiddgar, uchelgeisiol yn bwysig. Dangoswch yr arian i mi!

John akomfrah speaking at exhibition

Carys Bradley-Roberts (Rheolwr Caerdydd Creadigol)

Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor hanfodol yw cyllid yn ein sector – mae hi'n wych cael syniadau, ond mae angen adnoddau i'w gynhyrchu. Ond yr hyn sy'n aml yn llai clir yw sut i ddod o hyd iddo ac, ar ôl ei ddarganfod, sut i'w gael! Terfynau amser, ceisiadau hir, meini prawf manwl - weithiau gall cael gafael ar gyllid fod yn broses ddirgel a hir, neu’n gronfa wrth gefn i’r rhai ‘sy’n gwybod’.

Ar gyfer mis Mai, gwnaeth tîm Caerdydd Creadigol ei nod i gefnogi pobl greadigol sy'n chwilio am gyllid trwy rannu awgrymiadau a chyfleoedd cyfredol. Roedd hyn yn cynnwys sgwrs gan y cynhyrchydd llawrydd Tom Bevan yn ein Diwrnod Diwydiant Ysgrifennu Creadigol blynyddol, a gyflwynwyd ar y cyd ag MA Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Caerdydd. Soniodd Tom am sut i ddod o hyd i’r cyfle iawn, sut i ysgrifennu cais cymhellol a sut i ddatblygu cyllideb fanwl (mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru dempled defnyddiol i’ch rhoi ar ben ffordd). Y tips gan Tom: gwiriwch eich bod yn gymwys (ac yna gwiriwch eto!), estyn allan at y cyllidwyr fel eu bod yn gwybod amdanoch chi a'ch syniad (os nad yw'n iawn ar gyfer y gronfa hon, efallai y byddwch yn datgloi un arall) a chael prawf ddarllenydd gonest - yn ddelfrydol rhywun sy'n gwybod ychydig iawn am y prosiect ac sy'n gallu bwrw golwg beirniadol!

Fel y dywedodd Tom Bevan ei hun:

Pleser pur oedd cael siarad ag ystafell (ffansi iawn) yn llawn ysgrifenwyr a phobl greadigol. Tynnais ar rai o fy mhrofiadau o wneud cais am arian ar gyfer cynyrchiadau theatr a phrosiectau creadigol eraill a mwynheais yn fawr y mewnbwn a chwestiynau gan y grŵp hefyd. Fy nghyngor mwyaf yw unwaith 'da chi'n siŵr eich bod yn gymwys am grant, ceisiwch gael sgwrs gyda rhywun sy’n gweithio i’r corff/mudiad ariannu - gall fod o gymorth mawr i egluro’r broses ac mae’n gyfle i chi ymarfer dweud wrth rywun newydd am eich syniad gwych. - Tom Bevan

Tom Bevan speaking

Pan fyddwch yn llwyddo i sicrhau cyllid, gall fod yn drawsnewidiol. Rwy’n ysgrifennu hwn o babell wyntog yng Ngŵyl y Gelli, yn gwrando ar ddarlleniad cyhoeddus gan awduron newydd gwych o Gymru. Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gyllid, a dechreuodd hynny gyda syniad ac ewyllys i ffeindio'r adnoddau i'w gynhyrchu.

Sophie (Intern Cyfathrebu)

Mai, i mi, oedd dechrau fy lleoliad gwaith gyda Chaerdydd Creadigol ac mae wedi bod yn ddim byd ond rhyfeddol ac mor graff! Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn llawn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a chwrdd â phobl greadigol wych sy’n ehangu fy nealltwriaeth o sector y celfyddydau. Dwi’n methu aros i weithio’n agos gyda Tori ar ddechrau fy ymgyrch fy hun gyda Chaerdydd Creadigol a gweld lle mae’r misoedd nesaf yn mynd â fi a fy ngyrfa!

Sophie headshot

Eleanor (Intern Rheoli Prosiect)

Mae'r mis hwn yn nodi fy ychydig wythnosau cyntaf yn gweithio gyda Chaerdydd Creadigol, ac am fis! Fel newydd-ddyfodiad i’r rhwydwaith, rwyf wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn mynychu digwyddiadau a ysgogodd sgyrsiau dwfn ar dirwedd bresennol y sector creadigol, gan gyfarfod a sgwrsio â phobl greadigol angerddol, a deall be sy'n mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni ar gyfer digwyddiadau a chynllunio. Ni allaf aros i weld beth ddaw yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, a'r bobl y byddaf yn eu cael i ryngweithio â nhw.

Eleanor Headshot

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.