Tori Sillman, Swyddog Cynnwys Digidol
Roedd y mis hwn yn llawn dop o eiliadau craff sy’n ein hatgoffa pa mor bwysig y gall gweithio yn Gymraeg fod. Un uchafbwynt oedd eistedd lawr gyda Barry a Chris o dîm brandio Prifysgol Caerdydd, roedd eu harbenigedd mewn dylunio, cyfathrebu a brandio dwyieithog yn wych, gan wneud i mi feddwl ymhellach am sut mae iaith yn siapio hunaniaeth o fewn sefydliadau fawr.
Cefais hefyd y pleser o gwrdd â Nick Yeo o Sgwrsio. Roedd clywed am ei daith fel dysgwr Cymraeg a sut mae’n annog eraill i ymgysylltu â’r Gymraeg yn hynod ysbrydoledig. Mae ei angerdd dros chwalu ochr frawychus siarad Cymraeg er mwyn ei gwneud yn hygyrch i bawb yn wirioneddol wych.
Yn olaf, mae gwylio Y Llais ar S4C wedi bod yn agoriad llygad i botensial ehangach cerddoriaeth Gymraeg. Wedi fy nallu gan hiraeth, byddaf bob amser yn gefnogwr oes Avril Lavigne, doeddwn i ddim yn gwybod bod angen i mi glywed “I’m With You” yn Gymraeg ond dyma ni – roedd fy nghalon yn llawn!
Pob lwc i'r anhygoel Anna a Liam yn y rownd derfynol! Maen nhw'n hollol wych, ac yn haeddu'r holl flodau (neu'n hytrach, cennin pedr).”
John Evans, Swyddog Digwyddiadau a Phrosiectau
Mae gweithio'n ddwyieithog yn hanfodol yn fy ngwaith ac yn fy ymarfer creadigol. Rwy’n angerddol nid yn unig am fod yn berson creadigol, ond bod yn berson creadigol Cymreig ac wedi’i leoli yng Nghymru. Dwi eisiau gweiddi o’r castell am y bobl, y straeon, a’r dalent sydd gennym yma ar garreg ein drws.
Ym mis Mawrth, roeddwn wrth fy modd yn lansio digwyddiad cyntaf GORWEL mewn partneriaeth â Lone Worlds. Roedd y digwyddiad yn cynnwys y cerddor amgen lleol Neo Ukandu, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu cerddoriaeth. Mae Lone Worlds yn hyrwyddo cynnwys dwyieithog, ac roedd yn wych creu digwyddiad a oedd yn ddwyieithog ac yn gynhwysol i bawb.
Cefais gyfle hefyd i siarad â’r awdur, y cyfarwyddwr, a chast y ddrama newydd STILL HERE. Mae’r cynhyrchiad pwerus hwn yn dod â lleisiau Cymreig i’r llwyfan, gan gynnig naratif unigryw Cymreig. Un o agweddau mwyaf cymhellol y ddrama yw sut mae’n adlewyrchu profiadau bywyd go iawn ac yn archwilio hunaniaeth o fewn cyd-destun Cymreig, yn enwedig wrth i un o’r cymeriadau yn ceisio dysgu Cymraeg – rhywbeth sy’n atseinio gyda llawer yn ein cymuned. Wrth i STILL HERE deithio ledled De Cymru, mae’n amlygu pwysigrwydd llwyfannu lleisiau Cymreig sy’n dod i’r amlwg yn y theatr, gan greu gofod ar gyfer straeon sy’n teimlo’n ddilys ac sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn realiti’r Gymru gyfoes. Mae’n ein hatgoffa pa mor hanfodol yw adrodd ein straeon ein hunain, yn ein lleisiau ein hunain.
Fel Carys a Tori, dwi hefyd wedi bod yn mwynhau Y Llais y mis yma. Rydw i bob amser wedi fy syfrdanu gan y dalent gerddorol anhygoel sydd gennym yma yng Nghymru. Mae wedi bod yn fis prysur ond ysbrydoledig – iechyd da!
Carys Bradley-Roberts, Rheolwr Caerdydd Creadigol
I fi, mae'r iaith Gymraeg yn llawer mwy na rhywbeth unigryw sy'n ymestyn ein cynnig diwylliannol; mae'n rhan o fy hunaniaeth, o bwy ydw i. Dwi'n siarad â fy nheulu yn Gymraeg, mi oedd fy ngair cyntaf yn Gymraeg, ges i fy mheint cyntaf yn Gymraeg; Cymraeg ydi adra a pan dwi'n siarad Cymraeg, dyna pryd dwi'n teimlo fel fi fy hun. Mae hi'n bwysig iawn fod pobl greadigol Cymraeg hefo'r cyfleoedd i weithio a byw ein bywydau yn Gymraeg, ond mae hi hefyd yn bwysig fod pawb yn teimlo bod nhw'n gallu defnyddio a dathlu'r iaith, ddim dim ond rheini sy'n dod o gefndiroedd iaith Gymraeg fel fi.
Ar ddechrau'r mis, dyma ni'n cynnal gweithdy ar 'cyfathrebu'n ddwyieithog' ar gyfer myfyrwyr, wedi ei arwain gan Jess Raby o Media Cymru. Mae Jess wedi dysgu Cymraeg ac mae ei hangerdd at annog eraill i ddefnyddio'r iaith yn fendigedig. Dyma Jess yn rhannu enghreifftiau o sefydliadau sy'n defnyddio'r ddwy iaith mewn ffordd arloesol a chreadigol i farchnata, gan gynnwys Cymdeithas Pêl-droed Cymru (@cymru) a Thrafnidiaeth Cymru, gan ddefnyddio ffyrdd i weu'r iaith Gymraeg mewn copi heb fod yn waharddol na symbolaidd.
Cafwyd sgwrs dreiddgar gan y Dr Helen Davies, sy'n gweithio i'r dwydiant sgrin ddwyieithog i Triongl, cwmni cynhyrchu Teledu a Ffilm o Gymru, yn ein Paned i Ysbrydoli. Soniodd Helen am y broses o greu cynnwys dwyieithog, yn enwedig cynyrchiadau cefn wrth gefn (mae enghreifftiau yn cynnwys Y Gwyll / Hinterland ac Un Bore Mercher / Keeping Faith) a thechnoleg arloesol sy’n cefnogi cast a chriw i weithio ar gynyrchiadau Cymraeg. Diolch o galon Helen, a diolch i bawb a fynychodd am eu cwestiynau a'u sylwadau.
Ynghyd â’r uchafbwyntiau Caerdydd Creadigol hyn, rydw i hefyd wedi bod yn gwylio, darllen a gwrando ar bobl greadigol Cymraeg trwy gydol y mis! Ymhlith yr uchafbwyntiau oedd gwylio sioe American Interior Gruff Rhys yn The Sustainable Studios, mynd i weld Melin Melyn yn Tramshed, gwylio Y Llais (a chael fy mhartner di-Gymraeg i wirioni ar Y Llais) a gwrando ar albwm dwbl newydd Adwaith.
Edrych ‘mlaen i wylio a gwrando ar fwy o gynnwys Cymraeg mis nesaf!