DIVERGE: Chwefror 2025

18/02/2025 - 10:00
The Station, Tramshed Tech, Caerdydd
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Tom ydw i, cynhyrchydd theatr a digwyddiadau byw llawrydd ac mae gen i ADHD a Dyslecsia. Mae DIVERGE yn ofod cydweithio lle gall pobl greadigol niwroamrywiol ddod at ei gilydd a meithrin undod, cefnogaeth a chydweithio.

Rwy’n cynnal digwyddiad sy’n fan i gynhyrchwyr ac artistiaid niwrowahanol* sy’n gweithio yn y sector diwylliannol yn Ne Cymru, ddod at ei gilydd am ddiwrnod o weithio ar y cyd, gyda rhywbeth ychydig yn wahanol! Bydd y diwrnod wedi'i strwythuro i gynnwys rhywfaint o rwydweithio, micro-gyflwyniad a sesiwn holi-ac-ateb gan gydweithiwr creadigol niwrowahanol a sesiwn awr o hyd o fentora gan gyfoedion/rhannu syniadau.

*efallai fod gennych ddiagnosis ffurfiol neu efallai eich bod yn hunan-adnabod

Sut i gyrraedd y lleoliad

Mae DIVERGE yn digwydd yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd (The Station), taith gerdded bum munud o Orsaf Caerdydd Canolog. Cymerwch gip ar sut i gerdded i'r gofod o'r orsaf.

Cyfeiriad y lleoliad yw Uned D, Stryd Pendyris, Caerdydd, CF11 6BH, drws nesaf i leoliad cerddoriaeth Tramshed.

Mae parcio â thâl cyfyngedig ar gael y tu allan i'r lleoliad.

Ar ôl i chi gyrraedd, ewch i'r dderbynfa a byddant yn eich cyfeirio at yr ystafell.

Cynllun ar gyfer y diwrnod

10:00 – 11:00 Cofrestru wrth y ddesg flaen ac ymlacio yn yr ystafell, yn barod i ddechrau'r diwrnod o weithio

11:00 – 11:30am Paned a 'dysgu pwy sydd yn yr ystafell', wedi ei gynnal gan Tom.

11:00 – 13:00 Amser i weithio ar y cyd (gallwch fynd am ginio amser yma)

13:00 – 14:00 15 munud o gyflwyniad ysbrydoledig gyda C+A (Cyflwyniad mis yma gan Kyle Stead, bio isod)

14:00 – 16:00 Amser i weithio ar y cyd

16:00 - 17:00 Sesiwn ‘Trafod Materion Gyda’n Gilydd’: Bydd Tom yn hwyluso sgwrs i drafod unrhyw beth yr ydym am weithio drwyddo gyda'n gilydd/mewn parau

17:00 – 17:30 Y diwrnod yn dirwyn i ben/hanner awr i orffen unrhyw beth brys!

Beth i ddisgwyl

Mae DIVERGE yn amgylchedd gwaith cyfeillgar â ffocws!

Mae croeso mawr i chi sgwrsio a chymryd galwadau yn ystod y dydd - dewch â chlustffonau a byddwch yn ymwybodol o sŵn oherwydd efallai y bydd rhai pobl eisiau treulio'r amser yn canolbwyntio ar e-byst/galwadau. Cymerwch seibiannau sgrin yn ôl yr angen. Byddwn hefyd yn cadw ystafelloedd cyfarfod llai rhag ofn y bydd eu hangen ar gyfer galwadau / cyfarfodydd. Bydd te, coffi, dŵr a chacen ar gael!

Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad neu gwestiynau, rhowch wybod i mi trwy e-bostio tombevanwork@gmail.com, a copio mewn creativecardiff@caerdydd.ac.uk

Sylwch fod lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer DIVERGE felly canslwch eich tocyn os na allwch fynychu mwyach.

Comisiynwyd y prosiect hwn yn wreiddiol gan Cultural Freelancers Wales ac mae bellach yn cael ei gefnogi gan Gronfa Rhannu Gyda’n Gilydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cofrestrwch yma!

tombevanwork@gmail.com

Cyflwyniad ysbrydoledig: Kyle Stead (fo/fe)

Mae Kyle Stead (fe/ef) yn artist amlddisgyblaethol niwrowahanol o’r dosbarth budd-daliadau a anwyd yng Nghwm Rhondda yn ne Cymru. Mae ei waith yn cynnwys perfformio, creu darnau theatr, cynhyrchu creadigol, cynhyrchu cyfryngau a hwyluso, ymhlith eraill.

Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cymryd profiadau bywyd go iawn i greu gwaith sy'n cynnig i gynulleidfaoedd gipolwg digyfaddawd, eofn a realistig ar y byd sy'n cael ei greu. Mae Kyle yn angerddol am greu amgylcheddau gwaith sy’n ystyriol o drawma. Mae hyn yn bwysig i fynd ati i archwilio’n feiddgar a bod yn ddewr gyda dewisiadau creadigol. Mae am frwydro yn erbyn tangynrychiolaeth artistiaid o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel. A hynny wrth edrych hefyd ar wella amodau gwaith ar gyfer unigolion niwrowahanol.

Fel rhywun a adawodd yr ysgol yn gynnar, mae Kyle yn angerddol am addysg amgen,  ac yn defnyddio'r diwydiant creadigol fel lle i ddarganfod, arbrofi a dathlu. Mae Kyle yn defnyddio barddoniaeth lafar fel ffordd o fynegi ei hun, ac yn aml yn cyfuno ei eiriau â bîtbocsio. Fel rhywun sydd wedi cael trafferth gyda'i iechyd meddwl a'r gallu i reoli ei ddicter, mae wedi dysgu rhyddhau’r teimladau hynny drwy farddoniaeth lafar i’w gysuro.

Kyle oedd un o dderbynwyr Bwrsariaeth Greadigol Weston Jerwood 2020-2022. 

An image of Kyle Stead

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event