Dewch i gwrdd ag aelod newydd ein tîm: Tori Sillman

Mae Caerdydd Creadigol yn falch iawn o groesawu Tori Sillman i’r tîm fel ein Gweinyddwr Cynnwys Digidol. Yn y rôl hon, bydd Tori yn cefnogi ein sianeli digidol—o gylchlythyrau a chyfryngau cymdeithasol i gynnwys ar-lein—i rannu straeon a lleisiau'r sector, ac arddangos y dalent greadigol anhygoel yng Nghaerdydd a’r rhanbarth ehangach.

Darganfyddwch fwy am ei thaith greadigol, ei hangerdd am gerddoriaeth, a'r hyn y mae'n ei ragweld ar gyfer y rôl:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 10 January 2025

collage of tori

O Abertawe I'r Brifddinas

Mae camu i’r rôl hon yn rhwydwaith Caerdydd Creadigol yn gyfle gwych i ehangu fy ngorwelion. Does dim byd yn fy nghyffroi’n fwy na meddwl am blymio i’r sîn greadigol ehangach yng Nghymru, ac eithrio’r adeg pan fydd y reddf goroesi’n dechrau ar wasanaeth dau gerbyd Trafnidiaeth Cymru yn ôl adref i Abertawe. Yn ystod fy mhlentyndod yn Nhreforys, roedd y dref i’w gweld yn llawer mwy bryd hynny, lle mae'n rhaid fy mod wedi ymuno â phob clwb – dawns, drama, côr, chwaraeon amrywiol a chelf a chrefft. Roeddwn yn chwilfrydig i fwynhau popeth, fel bod mewn gardd yn llawn swigod yn rhedeg rownd yn ceisio eu popio nhw i gyd. Yn yr un modd nawr, byddaf yn rhoi cynnig ar bopeth creadigol, o gerddoriaeth, celf weledol a thecstilau.

Mewn eiliad a ddiffiniodd fy nhyrfa, sydd heb ei hail hyd heddiw, fi sydd â’r teitl Pencampwr Dawns Arswydus ers 2008. Fi oedd brenin y llawr dawnsio gyda symudiadau llofrudd (yn llythrennol – roedden nhw'n arswydus) fel dyn dwl. Hyd heddiw, ni all enaid marw na byw fy nghuro.

certificate for spookiest dance award

Taith Greadigol: O'r llawr dawnsio i ddylunio digidol

Mynychais Goleg Gŵyr Abertawe, yna astudiais Ddylunio Hysbysebu ym Mhrifysgol De Cymru. Symudais tuag at theori cynulleidfa a sut y gall geiriau a delweddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchion/gwasanaethau gael effaith o'r fath. Wrth ymarfer ysgrifennu a dylunio digidol dros y blynyddoedd hynny, roedd cerddoriaeth bob amser fel pe bai'n ymledu.

Trwy symud i Gaerdydd, cefais weld pwysigrwydd y gymuned a’r amgylchoedd; ymdeimlad o rannu profiadau a datblygiad yw'r cynhwysydd fflwcs sy'n cadw'r DeLorean i redeg. Dros amser, rydw i wir wedi cael fy ysbrydoli gan y bobl ddewr a thalentog sydd o'm cwmpas yng Nghaerdydd a thu hwnt yr ydw i'n ffodus i'w galw'n ffrindiau. A yw Hallmark yn dal i gyflogi?

Yn 2021, Anthem. Roedd Cronfa Gerddoriaeth Cymru yn llaw Duw (Adam ydw i) i ddatblygiad cerddoriaeth, ac mae hyn yn parhau heddiw. Rwy'n Rheolwr Cyfathrebu iddynt ac wedi gwneud grymuso cerddorion ifanc ledled Cymru yn ganolog i’m gwaith ers hynny. Gwneud pocedi o waith llawrydd ar brosiectau fel Forte a BBC Horizons i wirfoddoli mewn gwyliau cerdd fel Green Man, Gŵyl Sŵn, Gwobr Cerddoriaeth Cymru – alla i ddim aros i weld beth sydd ar y gweill yn 2025.


Wedi ei thanio gan Gerddoriaeth

Cerddoriaeth yw fy nhrysor mwyaf gwerthfawr – seren y gogledd go iawn i mi. Mae wedi fy arwain trwy amseroedd anhygoel ac wedi fy narostwng i emosiynau roeddwn i'n meddwl y gallai ffrindiau yn unig eu hachosi…

O gynilo fy arian poced, £2, ar gyfer cylchgronau Q ac NME i ganu i fy hoff fand gyda chan mil o ddieithriaid, mae'n cymryd rhan ganolog yn stori fy mywyd. Mae wedi rhoi'r hyn sydd gen i nawr, fy nghariad, fy ffrindiau, fy ngwaith. Mae popeth amdanaf wedi’i gysylltu'n ddwys â'r dirgryniadau o'm cwmpas ac rwy’n cael fy syfrdanu hyd heddiw pa mor wych y gall celf fod yn ei nifer o addasiadau. Felly, rwy’n hynod ffodus i allu ei brofi. Hallmark Sillman.

Mae yna swm anhygoel o dalent a cherddoriaeth wych yn mynd drwy wythiennau ein gwlad ar hyn o bryd. Dwi wedi creu rhestr chwarae sy'n cynnwys rhai o’m hoff artistiaid a chaneuon sydd wedi cael eu rhyddhau i Gymru dros y blynyddoedd. Mwynhewch!

Tune into Wales - playlist by Creative Cardiff | Spotify
 

Bywyd Tu Hwnt i'r Ddesg

Pan nad ydw i'n gweithio, fe fyddwch chi naill ai'n dod o hyd imi yn fy nhrydedd gig o'r wythnos neu gartref yn dechrau prosiect crefft newydd o flaen yr 17 darn anorffenedig yn erfyn i gael eu gorffen. O flaen Shudder Original neu unrhyw lestr o gynnwys Drag. Parti.

a collage of tori's craft projects

 

Edrych Ymlaen

Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig ac ni allaf aros i ddarganfod sut mae creadigrwydd yn gweithio i rymuso pobl yn eu bydoedd. Fy nghenhadaeth yw ymuno â thîm Caerdydd Creadigol i ddarlunio a chyflwyno straeon o bob diwydiant creadigol a all ysbrydoli a dylanwadu ar y gymuned. Bant â ni, fois! 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event