Dan y chwyddwydr: Awni?

Mae Awni? yn blatfform ar-lein deinamig sy'n mapio digwyddiadau cerddoriaeth Cymraeg, gan ei gwneud hi'n haws nag erioed i ddarganfod yn union ble a phryd mae perfformiadau'n digwydd ledled y wlad. P'un a ydych chi'n wrandawr cyson neu'n newydd ond brwdfrydig, mae Awni? yn gwahodd defnyddwyr i brofi sîn fywiog a chynyddol cerddoriaeth Cymraeg mewn amser go iawn.

Wrth wraidd Awni? mae cenhadaeth i gysylltu pobl â cherddoriaeth fyw mewn ffordd sy'n dathlu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg. I ddysgu mwy am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r platfform, siaradom â Martha, cyd-sylfaenydd Awni?, am sut y dechreuodd y cyfan, beth mae'n ei olygu iddi hi, a ble mae'n mynd nesaf...

awni logo

Allwch chi gofio’r foment dyma chi’n penderfynu “Iawn, mae angen i ni ddechrau Awni”?

Ma'r ddau ohonyn ni'n mwynhau mynd i gigs Cymraeg ers oedden ni ddigon hen i fynd - ma'n rhan mawr o'n bywydau cymdeithasol ni, fel lot o'n ffrindia' ni. 'Da ni reit 'on the ball' yn ffeindio be sy' 'mlaen drwy ddilyn ein hoff artistiaid/venues ar y cyfryngau cymdeithasol - ond yn aml, oedd 'na gigs grêt yn mynd heibio heb i ni glwyed amdanyn nhw! Felly ar ôl dysgu am gig y bore ar ôl iddo ddigwydd un waith yn ormod, dyma ni'n penderfynu creu 'awni?' fel bod ddim angen deud 'o gytud, doddwn i'm 'di clywed am y gig na!' byth eto!

Beth oedd y rhan anoddaf o ddechrau Awni?

I ddechrau, creu ap oedd y bwriad, ond ar ôl chwilio am opsiynau adeiladu ap - sylwon ni'n sydyn iawn bod o lot rhy uchelgeisiol a chostus. O'ni ddim rhy siwr wedyn os fysa 'awni?' yn bosib i gwbwl a colli gobaith yn y syniad! Ond gafoni bach o 'breakthrough' ar ôl defnyddio ChatGPT a sylwi bod modd defnyddio hwna i ddysgu sut i codio'r wefan fy hun. Mi gymrodd hi lot o amser i gael y wefan i weithio'n iawn (ma hi dal yn 'homemade' iawn!) ond dwi'n falch bod hi ar ei thraed. 

Ma yna LOT o gigs Cymraeg yn digwydd - felly 'da ni'n dal i ddysgu be di'r system ora' i drio gneud siwr bod rhain i gyd ar y wefan - 'da ni'n cyrradd yna'n ara bach gobeithio!

screenshot of the awni map

 

Sut ydych chi'n meddwl bod Awni yn newid y gêm ar gyfer fans ac artistiaid cerddoriaeth Gymraeg?

Dwi'n meddwl bod 'awni?' yn ffordd hwylus i bobl sy'n mwynhau gigs Cymraeg i ffeindio be sy' 'mlaen o amgylch nhw, ag ella'n g'neud i bobl sylwi bod 'na *fwy* ymlaen nag oedden nhw'n feddwl. Fel rwyn sydd 'di symud o Gaerdydd nôl i Ogledd Cymru am chydig, mae'n hawdd deud 'dosna'm byd ymlaen yma' ond gobeithio bod 'awni?' yn g'neud i bobl sylwi bod digon o sîn tu allan i'r brifddinas, a'n annog pobl i drefnu mwy o gigs i 'lenwi'r gaps' ar y map (hint hint Powys!)

welsh band mellt performing on stage

Beth am gerddoriaeth Gymraeg sy'n eich gwneud chi mor angerddol am ei harddangos?

Ma' hybu'r iaith Gymraeg yn rwbath sy'n agos iawn at 'y nghalon i fel lot o siaradwyr Cymraeg. A ma 'na llwyth o waith grêt yn cael ei neud o ran gwersi i ddysgwyr, polisïau, a gwaith mewn ysgolion i hybu'r iaith. Ond i mi, dwi'n meddwl mai cerddoriaeth, a gigs byw ydi'r arfau cryfa' sy'na i hybu iaith.

Dwi'n cyfeirio yn aml at yr effaith ma' Kneecap wedi'i gal ar yr iaith Wyddeleg - ma' nhw 'di dangos yr iaith mewn cyd-destyn cyfoes sy' mor wahanol i'r cyd-destyn ffurfiol ac academaidd ma lot o blant yn cysylltu hefo'r iaith ers ei ddysgu'n yr ysgol. Dyna'r effaith allith gigs Cymraeg gael ar bobl hefyd gobeithio - newid persbectif o weld o fel rhyw bwnc di-bwys yn ysgol, i rwbath sy'n gyffrous, yn fyw ag yn iach, yn greadigol, ag yn hwyl!

Mae yna ganran fawr o bobl sydd ddim yn ymwneud â cherddoriaeth Gymraeg ond sydd eisiau! Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sydd eisiau ehangu eu gorwelion cerddorol?

Mae cymaint i'w fwynhau yn y sin gerddoriaeth Gymraeg, o gerddoriaeth gwlad i rap i indie-pop, byddwch yn bendant yn dod o hyd i rywbeth i’w fwynhau. Mae yna hefyd lwyth o gigs dwyieithog yn cael eu trefnu o gwmpas Cymru, sy’n ffordd wych o gymryd y cam cyntaf i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Mae'n ffordd grêt o ddysgu geiriau newydd hefyd os ydych chi am ddysgu! Ac wrth gwrs, os ydych chi eisiau ffordd hawdd i ddod o hyd i gigs - ewch i awni.cymru!

Ewch i gael golwg ar Awni?

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.