Cynhadledd y Diwydiant Cerddoriaeth

19/02/2025 - 10:30
The Gate
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

hello@beacons.cymru

Diwrnod o weithdai ymarferol, siaradwyr ysbrydoledig a rhwydweithio i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth, yn cefnogi neu'n dymuno gweithio ynddo.


Mae Summit gan Beacons Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2025. Ymunwch â ni yn The Gate, Caerdydd ar y 19eg o Chwefror 2025 am ddiwrnod o uwchsgilio rhyngweithiol, gweithdai a rhwydweithio, gyda siaradwyr o’r sin gerddoriaeth leol, a’r rhai sy’n gweithio ar lefel genedlaethol yng Nghymru a gweddill y DU.
 

Os ydych yn ymwneud â cherddoriaeth ar unrhyw lefel ac yn gobeithio cael gwell dealltwriaeth o’r diwydiant cerddoriaeth – fel artist, cynhyrchydd, rheolwr, hyrwyddwr, myfyriwr, darpar weithiwr proffesiynol neu os oes gennych unrhyw ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth, dewch draw i ddarganfod mwy gan arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant yn eu maes.
 

Cofrestrwch nawr i fachu eich lle a chael eich diweddaru wrth i ni gyhoeddi’r pynciau, siaradwyr a mwy. Mae'r diwrnod hwn yn rhad ac am ddim i bawb ond os gallwch fforddio cyfrannu, cofiwch ystyried. Bydd yr holl elw yn mynd tuag at greu mwy o ddigwyddiadau fel y rhain ledled Cymru.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event