Dyma gyfle cyffrous i gymhwyso’ch sgiliau creu cynnwys i helpu i lunio’r naratifau ynghylch gweithredu dros yr hinsawdd yng Nghymru.
Fel ein Cydlynydd Adrodd Stori a Chynnwys Digidol, byddwch yn creu cynnwys dwyieithog sy’n hoelio sylw ar draws y cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau, a mwy, tra’n grymuso cymunedau i rannu eu straeon. Cewch gydweithio â thîm dynamig i gyflwyno‘r prosiect Imagine Action ac amlygu lleisiau sy’n ysgogi newid. Mae’r rôl hon yn berffaith ar gyfer rhywun sy’n angerddol am greadigrwydd, cyfiawnder hinsawdd, a chyfathrebu effeithiol.
Lleoliad: O bell, gyda’r opsiwn o waith swyddfa yng Nghaerdydd.
Cytundeb: Rhan amser (14.8 awr/wythnos), 2 flynedd. Mae 1 diwrnod ychwanegol (7.4 awr) wedi cael ei sicrhau am y pump mis cyntaf, sy’n golygu mai rôl 3 diwrnod yr wythnos ydy hon ar gyfer y cyfnod hwn.
Cyflog: £31,321 pro rata a phensiwn.
Dyddiad cau: 20 Ionawr 2025, 9 AM.
Mwy o wybodaeth: Swydd ddisgrifiad
Mae prosiect Imagine Action yn cael ei ariannu gan y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.