Comisiwn Oriel Myrddin: Galwad am Gynigion Gwaith Celf

Cyflog
£10,000
Location
Sir Gaerfyrddin
Oriau
Other
Closing date
19.01.2025
Profile picture for user OM

Postiwyd gan: OM

Dyddiad: 6 January 2025

Mae Oriel Myrddin yn gynhyrfus i gyhoeddi cyfle comisiwn yn benodol ar gyfer artistiaid mwyafrif byd-eang*. Rydym yn chwilio am gynigion ar gyfer gwaith celf weledol newydd mewn unrhyw gyfrwng sy’n rhoi llwyfan i ddathlu cyfraniadau mwyafrif y byd yng Nghymru, gan gydnabod eich effaith ar hanes, diwylliant a hunaniaeth Cymru.

Mae Oriel Myrddin yn mynd trwy drawsnewidiad enfawr a bydd y comisiwn hwn yn rhan o’r casgliad parhaol pan fyddwn yn ail-agor yn 2025.

* Rydym yn defnyddio’r term mwyafrif byd-eang i gydnabod bod pobl o gefndiroedd ethnig Du, Asiaidd a phobl eraill nad ydynt yn wyn yn cynrychioli mwyafrif poblogaeth y byd, gan herio’r farn Ewro-ganolog eu bod yn lleiafrif. Rydym yn cydnabod bod terminoleg yn esblygu, ac er ein bod wedi dewis hwn fel term ymbarél, rydym wedi ymrwymo i barchu sut mae pob unigolyn yn dymuno cael ei adnabod.

Pwy ddylai wneud cais: 

Dylech wneud cais os ydych yn artist gweledol sy'n nodi eich bod yn rhan o'r mwyafrif byd-eang (Du, Asiaidd, Cynhenid, treftadaeth gymysg, a grwpiau ethnig eraill nad ydynt yn wyn). Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan artistiaid sydd â chysylltiadau â Chymru neu os yw eich gwaith yn archwilio themâu diwylliant Cymreig, hunaniaeth, a’r groesffordd rhwng profiadau mwyafrif byd-eang o fewn Cymru.

Y Comisiwn:    

- Cyllideb: £10,000 (i gynnwys deunyddiau, amser, teithio)

- Dylai'r comisiwn arwain at ddarn celf weledol newydd, a all fod mewn unrhyw gyfrwng gweledol. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, beintio, cerflunwaith, ffotograffiaeth, neu grefft (e.e., cerameg, tecstilau, gwaith metel, crefft goed).

  Os cewch eich comisiynu, fe'ch gwahoddir i fynd ar daith o amgylch y gwaith o ailddatblygu OM i drafod cartref priodol ar gyfer y comisiwn mewn sgwrs â'r tîm OM.

- Bydd y gwaith gorffenedig yn cael ei arddangos yn barhaol yn Oriel Myrddin ar ôl ei ail-lansio yn 2025.

Edrychwch ar ein gwefan am fwy gwybodaeth.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event