Gwelliannau Heol y Cilgant i Heol Caerdydd, Caerffili
Mae’r comisiwn artist hwn yn gofyn am ymchwil a dylunio cysyniad i ddatblygu cyfres o ymyriadau testun, cerfluniol a chwareus sy’n cysylltu Heol y Cilgant â Heol Caerdydd, yn rhan o raglen gwelliannau i’r amgylchedd ehangach. Mae’r prosiect yn rhan o fframwaith adfywio ehangach, sef Cynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035. Un elfen allweddol o’r cynllun hwn yw gwella’r gwaith o adrodd stori’r gorffennol a’r presennol, eu cefnogi a’u gwneud yn weladwy o fewn y treflun, er mwyn atynnu ymwelwyr a thrigolion lleol i ymweld a chrwydro canol y dref.
Mae’r cyfle hwn yn arbennig o addas i artistiaid, ymchwilwyr diwylliannol, gwneuthurwyr neu ddylunwyr-gwneuthurwyr sy’n byw yng Nghymru ac sydd â phrofiad o weithio mewn mannau cyhoeddus.
Am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn, lawrlwythwch y briff artist llawn.