Arddangosfa Ffasiwn

15/12/2024 - 16:00
The Sustainable Studio

Postiwyd gan: JukeboxCollective

hello@jukeboxcollective.com

Arddangosfa Ffasiwn gyda Bleak Fabulous, wedi’i churadu gan Academi Jukebox yn The Sustainable Studio, ar agor i’w gwylio tan 31 Ionawr 2025
 

Mae Bleak Fabulous a Jukebox Collective wedi bod yn cydweithio ers 2021 ar y dasg o archwilio treftadaeth Cymru mewn cyd-destun cyfoes, gan annog archwilio balchder a hunaniaeth Gymreig a hynny drwy ddulliau modern.  

Daeth y wisg genedlaethol Gymreig i'r amlwg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mewn ymateb i don o ddiddordeb yn y defnydd cynyddol o'r Gymraeg a'r awydd i greu hunaniaeth sartoraidd. Mae'r wisg yn cynnwys clogyn o wlanen goch, siôl bersli, Pais a Betgwn, sgert sy’n debyg i bais, Betgwn, gŵn gwely clasurol o wlanen wen a het ddu uchel.

Ysbrydolwyd Charlotte James a Clémentine Schneidermann gan yr Het Gymreig yn arbennig ac aethant ati i ddefnyddio’r darn hwn o eiconograffeg genedlaethol fel sylfaen i’r prosiect. Gan gydweithio â’r dylunydd gwisgoedd Cymreig Ffian Jones, bu myfyrwyr Academi Jukebox yn cymryd rhan mewn gweithdy creu hetiau, gan foderneiddio’r eitem draddodiadol hon drwy ei thrwytho â’u fflachiadau creadigol a’u hunaniaeth unigryw.

Ar wahân i greu hetiau, roedd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o weithdai ym maes dylunio gwisgoedd, steilio, ffotograffiaeth, darlunio, cyfarwyddyd celf, a chynhyrchu delweddau, gyda’r myfyrwyr yn cael eu trochi yn y broses greadigol o'r dechrau i'r diwedd. Dysgodd y cyfranogwyr sgiliau creadigol newydd, er enghraifft, creu byrddau awyrgylch, steilio, addasu, a chyfarwyddo celf, archwilio eiconograffeg ddiwylliannol Gymreig, a throsoli eu treftadaeth fel ffurf o fynegiant.

Aeth Schneidermann ati i dynnu lluniau o’r gwisgoedd gorffenedig yn Nhre-biwt ac ym Mae Caerdydd hefyd, tra bu James yn goruchwylio'r cyfarwyddyd creadigol. Mae’r lluniau a grëwyd yn adlewyrchu natur chwareus archwiliad y cyfranogwyr ohonynt eu hunain. Mae’r lliw cyfoethog sydd wedi ei osod yn erbyn lliwiau llwyd a gwyn cynnil ac amlwg cartrefi Cymru yn crynhoi hanfod Bleak Fabulous, a gall hyn weithredu fel trosiad o’r hunaniaeth Gymreig: bywiog, beiddgar, a llawn bywyd yn erbyn ei gorffennol ôl-ddiwydiannol a’r presennol sy’n dod i’r amlwg.

Bydd y gofod ar agor i'r cyhoedd ei weld am ddim

Dydd Mawrth - Dydd Sul, 10:30am - 5pm 

(Gallai Oriau Gwyliau ohirio)

Bydd copïau cyfyngedig o'n cylchgrawn ar gael i'w prynu ar y safle


--------

Jukebox Collective


Cydweithfa gymunedol sy’n cael ei harwain gan bobl ifanc yw Jukebox ac mae’n meithrin lleisiau creadigol yr yfory. Mae eu Hacademi yn arbenigo mewn datblygu artistiaid trwy weithdai amlddisgyblaethol, mentora a sesiynau sy’n cynnig cipolwg ar y diwydiant creadigol.

Bleak Fabulous 

Stiwdio greadigol sy’n seiliedig ar ffotograffiaeth yw Bleak Fabulous ac mae’n cyfuno gwaith ieuenctid, gweithdai creadigol, a ffotograffiaeth ddogfennol. Fe’i harweinir gan y ffotograffydd Ffrengig Clémentine Schneidermann a’r cyfarwyddwr creadigol o Gymru, Charlotte James.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event