Ydych chi'n wneuthurwr ffilm benywaidd neu anneuaidd sy’n dod o Gymru neu’n gweithio yng Nghymru sydd ag un neu fwy o brosiectau anorffenedig wedi'u storio ar eich cyfrifiadur, yn cuddio mewn drôr desg, neu'n segura mewn uffern o ddatblygiad?
Rydyn ni am roi’r cyfle i chi rannu a myfyrio ar eich gwaith anghyflawn neu anorffenedig mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, yr haf hwn. Gallwn gefnogi tri gwneuthurwr ffilm (neu ymarferydd teledu) i gynhyrchu a chyflwyno darlith–berfformiadau gan ailgyfansoddi deunyddiau o'u prosiectau anorffenedig o’r gorffennol.
Ysbrydolwyd y prosiect hwn gan lyfr Alix Beeston a Stefan Solomon, Incomplete: The Feminist Possibilities of the Unfinished Film, sy'n ailddychmygu gweithiau anghyflawn menywod fel nodweddion hanfodol o hanes ffilm. Mae hefyd wedi’i ysbrydoli gan berfformiad doniol ac emosiynol Laura Conway, Lass that Has Gone, a gyflwynwyd yn Amgueddfa Gelf Denver y llynedd, ynghyd â ffilmiau diweddar am ffilmiau anorffenedig fel My First Film (2024) gan Zia Anger a Shirkers (2018) gan Sandi Tan.
Manylion y Prosiect
Mae tîm y prosiect, Dr Alix Beeston a Dr Meena Saverimuttu, wedi sicrhau cyllid gan Brifysgol Caerdydd/UKRI i gomisiynu tri darlith–berfformiad, pob un yn para 30–40 munud, i’w cyflwyno mewn digwyddiad cyhoeddus, a fydd yn rhad ac am ddim, yn Sinema 2 Chapter ar ddiwedd Awst 2025.
Bydd y perfformiadau'n cael eu datblygu gan y gwneuthurwyr ffilm a ddewisir o fis Mai i fis Awst 2025. Bydd gan y gwneuthurwyr ffilm ymreolaeth wrth bennu'r amserlen a'r broses ar gyfer datblygu'r gweithiau hyn, yn ogystal â'u cynnwys a'u siâp terfynol. Bydd gofyn iddyn nhw fynychu dau weithdy rhyngweithiol, wyneb-yn-wyneb gyda thîm y prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd angen gwneud ychydig o ddarllen a/neu wylio paratoadol ar gyfer y rhain, a fydd yn cynnwys rhannu eu gwaith wrth iddo fynd rhagddo.
Rhaid i'r gwneuthurwyr ffilm hefyd sicrhau eu bod ar gael i gwblhau arolygon (byr!) neu gyfweliadau rhithwir ar ddechrau, canol a diwedd y prosiect.
Nod y Prosiect
Mae gan y prosiect dri nod:
Yn gyntaf, rydyn ni am annog gwneuthurwyr ffilm ac ymarferwyr celfyddydol eraill yng Nghymru i feithrin agweddau mwy adfyfyriol a llai hunanfeirniadol tuag at yr anorffenedig, gan symud y tu hwnt i'w gysylltiadau â chywilydd a methiant.
Yn ail, rydyn ni’n gobeithio y bydd y darlith–berfformiadau’n codi ymwybyddiaeth o'r amodau sy’n arwain at beidio â gwneud ffilmiau yng Nghymru – gan gynnwys effeithiau gwahaniaethu strwythurol o ran rhyw, hil a dosbarth – ymhlith cynulleidfaoedd cyhoeddus a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Ein nod ehangach yw gweld mwy o degwch a llwybrau newydd yn y maes datblygu ffilmiau i fenywod a phobl eraill sydd wedi’u lleiafrifo.
Yn drydydd, rydyn ni am ennyn gwerthfawrogiad newydd ymhlith artistiaid a chynulleidfaoedd o botensial prosiectau anorffenedig, a all arwain at ail-weithio a rhaglennu creadigol pellach ar weithiau anghyflawn yng Nghymru (a thu hwnt).
Yr Hyn y Gallwn Ni ei Gynnig
Bydd pob un o'r tri gwneuthurwr ffilm a ddewisir yn derbyn ffi o £800 am ddatblygu eu darlith–berfformiad, a gyflwynir mewn dwy ran ym mis Mehefin a mis Gorffennaf, a ffi siaradwr arall o £400 yn dilyn y digwyddiad yn Chapter.
Bydd y cyfraddau sefydlog hyn yn talu costau llafur creadigol a deunyddiau sy'n gysylltiedig â datblygu'r perfformiadau, yn ogystal â chymryd rhan yn y gweithdai a’r arolygon/cyfweliadau. Bydd gan y gwneuthurwyr ffilm ddisgresiwn o ran y defnydd o’r cronfeydd a byddan nhw’n cadw’r eiddo deallusol ar gyfer y gweithiau maen nhw’n eu creu.
Bydd y prosiect hefyd yn ariannu arlwyo ar gyfer y gweithgareddau ac yn gwrthbwyso costau teithio'r gwneuthurwyr ffilm i ac o’r gweithdai a'r digwyddiad cyhoeddus (o fewn de Cymru).
Datganiadau o Ddiddordeb
Eisiau cymryd rhan? Y cyfan sydd ei angen arnom yw Datganiad o Ddiddordeb byr iawn cyn 14 Chwefror 2025. E-bostiwch ddatganiad o ddim mwy na 150 gair at beestona@caerdydd.ac.uk yn nodi natur eich prosiect(au) anorffenedig a pham fod gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect. A fyddech cystal ag anfon bywgraffiad byr hefyd i roi syniad i ni o'ch profiad o wneud ffilmiau hyd yma.
Caiff Datganiadau o Ddiddordeb eu hasesu gan dîm y prosiect, mewn ymgynghoriad â Claire Vaughan (Rheolwr Rhaglen Sinema, Chapter). Bydd pob ymgeisydd yn derbyn ei ganlyniad erbyn diwedd mis Chwefror.
Cyn belled â bod gennych o leiaf rywfaint o brofiad ffilm, eich bod wedi'ch lleoli yng Nghymru neu'n dod o Gymru, a'ch bod yn uniaethu fel menyw neu’n anneuaidd, mae croeso i chi wneud cais. Allwn ni ddim aros i glywed gennych chi!
Cysylltiadau
Dr Alix Beeston (beestona@caerdydd.ac.uk)
Dr Meenaatchi (Meena) Saverimuttu (saverimuttum@caerdydd.ac.uk)
Cyflwynir y fenter hon gan Image Works: Ymchwil ac Ymarfer mewn Diwylliant Gweledol ac fe’i hariennir gan Gronfa Effaith Strategol Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni (IAA) UKRI Prifysgol Caerdydd.