Account Executive

Cyflog
£24,242
Location
Cardiff
Oriau
Full time
Closing date
28.07.2025
Profile picture for user Grasshopper

Postiwyd gan: Grasshopper

Dyddiad: 10 July 2025

Rydyn ni'n chwilio am berson graddedig brwdfrydig, yn ddelfrydol gyda chymhwyster mewn Gwleidyddiaeth neu Gyfathrebu.

Rydyn ni eisiau rhywun sydd ag agwedd gadarnhaol, gyda sgiliau ysgrifennu gwych a diddordeb mewn materion cyfoes.

Ynghylch Grasshopper

Mae Grasshopper yn asiantaeth gyfathrebu arobryn sydd ag agwedd greadigol ac ymrwymiad i ymgysylltu â'r gymuned. Rydym yn creu ymgyrchoedd sy'n newid agweddau a gweithredoedd mewn ffyrdd cadarnhaol, parhaol. Rydym yn helpu i lunio sgyrsiau am y byd o'n cwmpas. Boed yn deithio llesol, ynni adnewyddadwy neu dechnolegau carbon isel. 

Fel tîm, rydym yn un dan nod cyffredin – cael pobl i siarad ac agor gwerth cymdeithasol. Sy'n gwneud dod i'r gwaith yn ystyrlon, yn ysbrydoledig ac yn hwyl.

Mae gennym gyfle gwych i ymuno â'n tîm. Os hoffech chi weithio i gwmni sydd ag angerdd go iawn dros y gymuned a diddordeb mewn cynaliadwyedd – byddem ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Gallwn ni addo croeso cynnes i chi, cyfle i adeiladu'ch gyrfa a chael effaith gadarnhaol ar y byd o'ch cwmpas.

Rhinweddau/sgiliau allweddol

  • Profiad o ymchwil, ysgrifennu copi, trefnu digwyddiadau, dadansoddi data ac ysgrifennu adroddiadau.
  • Diddordeb mewn materion cyfoes, gwleidyddiaeth, materion amgylcheddol a chynaliadwyedd.
  • Y gallu i ddatblygu perthnasoedd gwaith ag amrywiaeth o gleientiaid, cynrychiolwyr cymunedol a rhanddeiliaid.
  • Gallu rheoli llwyth gwaith heriol ac amrywiol a all newid ar fyr rybudd.
  • Dawn greadigol – agored i syniadau a ffyrdd newydd o wneud pethau.
  • Yn ddeallus yn ddigidol, gyda dealltwriaeth o sut i ddefnyddio pŵer cyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol.
  • Gan fod ein hymgyrchoedd a'n prosiectau yn ddwyieithog, mae rhuglder mewn siarad, darllen ac ysgrifennu'r Gymraeg yn ddymunol.

Pecyn tâl a buddion

  • Cyflog: £24,242 (neu bwysiad cyfwerth ar gyfer Llundain)
  • Dull gweithio hyblyg ag oriau craidd 10am-3pm
  • Dau ddiwrnod cyflogedig y flwyddyn yn gwirfoddoli i helpu eich cymuned leol
  • Cynllun pensiwn gweithle
  • Hyfforddiant a DPP

Mae gwahanol bobl yn rhannu gwerthoedd gwahanol

Yn Grasshopper, pan fydd pobl dalentog yn cydweithio, credwn fod pethau gwych yn bosibl. Mae Grasshopper yn cyflogi pobl sydd â sgiliau profedig a meddyliau agored. Rydym yn cymryd camau bwriadol i greu diwylliant cynhwysol sy'n seiliedig ar ein pwrpas i lunio byd gwell.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, ni waeth beth yw eu hoedran, anabledd, rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, mynegiant rhywedd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir economaidd-gymdeithasol, ac unrhyw nodwedd warchodedig arall.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cam o'n proses recriwtio yn hygyrch i ymgeiswyr ag anableddau. Siaradwch â Hannah a bydd hi'n gweithio gyda chi i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau y gallwch berfformio ar eich gorau trwy gydol eich cais.

Yn Grasshopper rydym yn gwerthfawrogi bod amgylchiadau pawb yn wahanol a bod cael y rhyddid i ystwytho'r ffordd rydym yn gweithio yn hanfodol i'n llesiant. Os yw hyblygrwydd yn bwysig i chi, rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n gwneud cais, a byddwn ni'n trafod sut y gallai hyn weithio yn eich rôl.

Sut i wneud cais

I wneud cais, e-bostiwch eich CV gyda llythyr eglurhaol byr, yn egluro eich diddordeb yn y rôl recruitment@grasshopper-comms.co.uk erbyn dydd Llun, 28 Gorffennaf 2025.

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl, e-bostiwch: hannah@grasshopper-comms.co.uk  

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.