Mae Tafwyl yn ŵyl flynyddol yng Nghastell Caerdydd, sy’n cynnwys amrywiaeth o berfformiadau cerddorol, trafodaethau, digwyddiadau, marchnadoedd a bwyd. Roedd prif artistiaid yr ŵyl eleni yn cynnwys Gwilym, Swnami, Adwaith ac Yws Gwynedd, yn ogystal ag amrywiaeth o artistiaid eraill yn perfformio drwy gydol y penwythnos a’r Wythnos Ffrinj.
Edrychwch ar luniau o Tafwyl 2022
Yn ogystal â Tafwyl, penwythnos yma fe hefyd cynhaliwyd gig deuddydd yn gyda’r artistiaid o Gymru Stereophonics, Tom Jones a Feeder, gyda chefnogaeth Buzzard Buzzard Buzzard a Gruff Rhys o Gaerdydd.
Digwyddiadau cerddoriaeth sydd i ddod yng Nghaerdydd
Ar ôl penwythnos mor brysur a chyffrous o gerddoriaeth yn y ddinas, gadewch i ni edrych ar y digwyddiadau sydd i ddod.
Mae Minty's Gig Guide yn ganllaw rhyngweithiol digidol i helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ffans cerddoriaeth leol am y gigs sy'n cael ei gynnal a ble maen nhw'n digwydd. Darllenwch fwy am Minty's Gig Guide.
Mae Radar Mag wedi dechrau coladu rhestrau wythnosol o ddigwyddiadau cerddorol a gynhelir mewn lleoliadau ar draws y ddinas. Gallwch weld y rhestr ddiweddaraf ar eu Instagram @radarmagcardiff.
Mae Gŵyl Sŵn, sef penwythnos blynyddol o gerddoriaeth fyw a gynhelir ym mis Hydref 2022, hefyd wedi cyhoeddi ton gyntaf ei rhaglen yn ddiweddar. Cymerwch olwg.