Mae’r cynllun Bardd Cenedlaethol Cymru, sy’n cael ei gynnal gan Lenyddiaeth Cymru, yn mynd â barddoniaeth i gynulleidfaoedd newydd ac yn annog pobl i ddefnyddio eu lleisiau creadigol i ysbrydoli newid cadarnhaol.
Wedi’i sefydlu yn 2015, mae’r Bardd Cenedlaethol yn llysgennad dros bobl Cymru, yn lledaenu’r neges bod llenyddiaeth yn perthyn i bawb a’n rhoi llwyfan barddonol i rai o faterion pwysicaf ein hoes. Mae Beirdd Cenedlaethol blaenorol yn cynnwys: Ifor ap Glyn, Gillian Clarke, Gwyn Thomas a Gwyneth Lewis.
Mwy am Hanan Issa
Mae Hanan yn fardd, gwneuthurwr ffilm ac artist Iraci-Gymreig. Ymysg ei chyhoeddiadau mae casgliad barddoniaeth, My Body Can House Two Hearts a Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales. Hanan yw cyd-sylfaenydd y gyfres meic agored Where I’m Coming From. Derbyniodd gomisiwn 2020 Ffilm Cymru/ BBC Wales ar gyfer ei ffilm fer The Golden Apple.
Yn trafod y penodiad, dywedodd Hanan:
Mae barddoniaeth yn bodoli yn esgyrn y wlad. Mae’r Gymraeg ei hun wedi datblygu law yn llaw â ffurf hynaf y wlad ar farddoniaeth ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i ailddyfeisio ffyrdd o ymgysylltu’n greadigol â thraddodiadau a hanes Cymru. Yn ogystal, mae barddoniaeth yn fy helpu i wneud synnwyr o’r byd ac rwyf am rannu’r cysur a’r eglurder y gall ei roi ar adegau o ansicrwydd
Dechreuodd y broses benodi ar gyfer Bardd Cenedlaethol Cymru gyda galwad gyhoeddus am enwebiadau. Yna trosglwyddwyd y penderfyniad i banel dethol yn cynnwys Natalie Jerome, asiant llenyddol; cyn Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam; Asiant dros Newid Cyngor Celfyddydau Cymru, Andrew Ogun; ac Ashok Ahir, Cyfarwyddwr Cyfathrebu.
A ran y panel, dywedodd Ashok Ahir:
Roedd yn rhaid i’r panel ddewis rhwng ystod amrywiol o arddulliau a lleisiau barddonol ac roedd yn wych gweld y lefel uchel o dalent sy’n gweithio yng Nghymru heddiw.
Mae hwn yn apwyntiad hynod gyffrous.
Mae Hanan yn llais traws-gymunedol sy'n siarad gyda phob rhan o'r wlad. Bydd hi’n llysgennad gwych i genedl amrywiol ei diwylliant ac eangfrydig