Beth yw Clwstwr?
Yn 2018 dewisodd Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol, sy’n rhan o Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, Gaerdydd yn un o naw clwstwr creadigol ledled y DU.
Ers hynny, mae tîm Clwstwr wedi bod yn galluogi ac yn cyflwyno arloesedd diwydiannau creadigol gyda gweithwyr llawrydd a busnesau o bob rhan o Gymru. Nod y rhaglen hon, a ddaw i ben yn 2023, oedd gweithio gyda'r sectorau sgrîn a newyddion i sicrhau bod ymchwil a datblygu wrth wraidd cynyrchiadau’r cyfryngau.
Bydd y digwyddiad yn arddangos ac yn dathlu’r prosiectau arloesedd sydd wedi’u galluogi drwy Clwstwr.
Amserlen ClwstwrVerse
Mae amserlen ClwstwrVerse wedi’i chyhoeddi yn ddiweddar, yn cynnwys amrywiaeth o arddangosiadau, cyflwyniadau, gweithdai rhyngweithiol, arbrofion, arddangosfeydd a phrif siaradwr. Dyma flas o’r sesiynau sy’n cael eu cynnal ar y diwrnod:
Arddangosfa: Arddangosfa Clwstwr
Dewch i brofi arloesedd yn y diwydiannau creadigol a chwrdd â'r bobl greadigol sydd wrth y llyw.
Prif anerchiad gan Greg Reed
Bydd Is-lywydd Partneriaethau Technoleg ac Arloesedd Universal Pictures, yn siarad am y We 3.0 a'r metaverse.
Arbrawf: Arbrofi Hissing Currents yn fyw gyda defnyddwyr
Bydd y cerddor a’r perfformiwr Gruff Rhys yn cynnal arbrawf i weld pa mor bell y gellir gwthio offeryn Cerddorfa Sain y BBC mewn digwyddiadau torfol trwy ychwanegu rhyngweithiad sain gan gynulleidfa ar sgrîn at ddarn o gerddoriaeth fyw.
Cyflwyniad: Newyddion yng Nghymru: Gwersi o ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys
Bydd Dr David Dunkley Gyimah yn sgwrsio â Marcus Ryder MBE, Simone Pennant MBE a Pat Younge am sut i wneud y newyddion, a’r ystafell newyddion, yn fwy cynhwysol.
Rhyngweithiol: Arloesi gyda'r Diwydiannau Creadigol
Yn y sesiwn ryngweithiol hon, bydd y tîm, dan arweiniad yr Athro Andrew Walters, yn cyflwyno adnoddau syniadaeth ac yn gwahodd y gynulleidfa i gymryd rhan yn y gwaith o lunio argymhellion i gefnogi'r sectorau ymhellach.
Gweld rhaglen lawn y digwyddiad
Cadwch eich lle
Gwahoddir pobl greadigol i archwilio arloesedd a thechnolegau newydd yn ein diwydiant, waeth beth fo'ch sector arbenigol.
Cadwch eich lle ar gyfer y digwyddiad ar 4 Gorffennaf yn Neuadd y Ddinas