Yn ail bennod ail gyfres Get A ‘Proper’ Job, mae’r gyflwynwraig Kayleigh Mcleod yn sgwrsio â Bernie Plain, cyfarwyddwr cwmni stiwdio ymarfer a recordio Musicbox Studios, a Lucy Squire, pennaeth cerddoriaeth Prifysgol De Cymru, am effaith COVID-19 ar y diwydiant cerddoriaeth fyw.
Yn y bennod hon, rydym yn canolbwyntio’n benodol ar wyliau a’r busnesau creadigol sy’n cyflenwi’r diwydiant.
Meddai Lucy, sy’n aelod o fwrdd cerddoriaeth Caerdydd, yn eistedd ar yr is-bwyllgor addysg ac sydd hefyd yn rhan o weithgor Cymru Greadigol ar gyfer cerddoriaeth: “Mae effaith economaidd a diwylliannol enfawr. Rwy’n credu ei bod hi’n hynod werthfawr cydnabod cyfraniad enfawr y sector cerddoriaeth i’r economi – amcangyfrifir ei fod yn £5bn – ac mae ganddo gyfraniad diwylliannol enfawr i'w wneud hefyd.
“Nid yr artistiaid yn unig, ond y seilwaith cyfan a’r gadwyn gyflenwi sy’n cefnogi’r artist. Mae ecoleg gerddoriaeth yn gweithredu o amgylch gwyliau a’r diwydiant cerddoriaeth fyw er mwyn iddo weithio, ac i bob pwrpas, maen nhw wedi cael eu diswyddo dros nos ac yn brwydro i oroesi.”
Dywedodd Bernie, sy’n aelod o weithgor Cymru Greadigol ar gyfer cerddoriaeth: “Mae pobl wedi bod yn gwylio adloniant mewn torfeydd mawr ers miloedd o flynyddoedd – ni fydd COVID yn newid hynny. Does dim yn mynd i gymryd lle digwyddiadau byw, ond rwy'n credu bod ategu hynny, neu gael profiad ychwanegol...rwy'n credu bod y dull cyfunol hwnnw yn beth cadarnhaol i ddod allan ohono.”
Gwrandewch ar y bennod lawn:
iTunes: http://bit.ly/GAPJS2E2
Spotify: https://spoti.fi/30Javht
Dolenni a rhagor o wybodaeth
Dogfen REVS Music Venues Trust (ailagor bob lleoliad yn ddiogel)
Gŵyl Lost Horizons – cynnwys rhith-wirionedd
Gŵyl parc Gisburne – gŵyl pellter cymdeithasol cyntaf y DU.
Recordiwyd y bennod hon o bell o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 ym mis Awst 2020.
Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job gan rwydwaith ddinesig Caerdydd Creadigol ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.
Gwrando ar benodau eraill o gyfres gyntaf Get A 'Proper' Job yma.