Cronfa Lleoedd Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI

Cyflog
£20,000
Location
Gweithio o bell – gellir gwneud y gwaith hwn o unrhyw leoliad ledled y DU.
Oriau
Other
Closing date
23.09.2024
Profile picture for user Film Hub Wales

Postiwyd gan: Film Hub Wales

Dyddiad: 6 September 2024

  • Cronfa Lleoedd Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI
  • Tâl: Cyfanswm y tâl ar gyfer y gwaith hwn, gyda TAW a threuliau yn gynwysedig, yw £20,000
  • Cwblhau’r gwaith: Canfyddiadau cychwynnol erbyn 30 Mehefin 2025, Drafft terfynol erbyn 2 Medi 2025 a Adroddiad terfynol erbyn 30 Medi 2025
  • Lleoliad: Gweithio o bell – gellir gwneud y gwaith hwn o unrhyw leoliad ledled y DU.

Trosolwg:

Mae Cronfa Lleoedd Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (RhCFf) y BFI yn rhaglen beilot fydd yn rhedeg o fis Medi 2024 i fis Mehefin 2025. Mae hi wedi’i chynllunio i gynyddu ymgysylltiad y cyhoedd â chanolfannau sinema annibynnol gan ddefnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol i helpu canolfannau i ddod yn fwy gweledol a hygyrch i’w cymunedau lleol. Mae Canolfan Ffilm Cymru, Film Hub Midlands a Film Hub North wedi eu dewis i ymgymryd â’r fenter arloesol hon a arweinir gan farchnata, ledled y DU.

Bydd pob Canolfan yn gweithio gyda nifer fechan o leoliadau yn eu rhanbarth, gan ffocysu ar ardaloedd sydd â darpariaeth ddiwylliannol gyfyngedig a defnyddio ystod o ddulliau. Bydd y prosiect yn ceisio datblygu ymwybyddiaeth o’r rôl mae’r ganolfan ynchwarae yn y gymuned, gan rymuso’u gallu i adrodd straeon mewn ffyrdd effeithiol a deniadol.

Mae angen fframwaith gwerthuso i asesu effaith gweithgarwch Cronfa Lleoedd RhCFf y BFI. Fel prosiect peilot, bydd angen i ni sefydlu set o feincnodau y gellir eu monitro yn gyfunol ledled y rhanbarth ar hyd y gwaith. Dylid cynllunio a gweithredu systemau ym mhob ardal er mwyn casglu adborth ansoddol a data meintiol, gan archwilio pa mor llwyddiannus yw’r rhaglen beilot, ynghyd ag unrhyw argymhellion ar gyfer ei chyflwyno yn y dyfodol.

Sut i ymgeisio:

Gofynnir i chi gyflwyno cynnig ysgrifenedig sy’n cynnwys:

  • Eich dull o gyflawni'r briff ymchwil;
  • Manylion yr unigolyn/unigolion a fydd yn gweithio ar y prosiect ynghyd â'u CV;
  • Amlinelliad o brofiad blaenorol yn y maes hwn ac enghraifft o’r gwaith;
  • Dau eirda o waith blaenorol/tebyg;
  • Cyllideb ar gyfer y gwaith hwn yn nodi dadansoddiad o ddyddiau a chyfraddau dyddiol. Rhaid i gyllidebau gynnwys TAW a threuliau.

Anfonwch y wybodaeth yma ar e-bost i hello@filmhubwales.org

Dyddiad cau ar gyfer cynigion: 5pm, 23 Medi

  • Bydd y rhestr fer yn seiliedig ar ba mor dda y mae ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf hanfodol a restrir yn y disgrifiad swydd. Rhowch sylw i bob pwynt yn eich cynnig.
  • Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr ar y rhestr fer i drefnu cyfweliadau (dyddiad i'w gadarnhau). Ni fyddwn yn gallu cyfarfod ag ymgeiswyr unigol cyn y cyfweliad.
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event