Chwarae Teg

16/10/2024 - 19:00
The Moon, 3 Womanby Street, Cardiff, CF10 1BR
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae Caerdydd Creadigol a Katie Owen yn falch iawn o gyhoeddi Chwarae Teg, digwyddiad cyffrous newydd i arddangos a dathlu artistiaid newydd o Gymru. Ymunwch â ni ar 16 Hydref 2024 yn The Moon, Womanby St am noson dan arweiniad y DJ a’r cyflwynydd Katie Owen ac yn cynnwys rhai o gerddorion newydd y ddinas a thu hwnt!

Gyda sîn gerddoriaeth Caerdydd yn llawn bwrlwm diolch i haf llawn o berfformwyr cerddoriaeth fyw a Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, sy’n cynnwys Sŵn, Llais, a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig— dyma’r amser perffaith i archwilio’r artistiaid a fydd yn siapio dyfodol cerddoriaeth Cymru.

P’un a ydych yn artist neu’n frwd dros gerddoriaeth, ymunwch â ni i ddathlu tirwedd gerddoriaeth fywiog Caerdydd.

Lein-yp:

Waterpistol
No Good Boyo (DJ set with live vocals)
Kalisha Quinlan

Allwn ni ddim aros i'ch gweld chi yno!

📅 Dyddiad: Hydref 16, 2024

📍 Lleoliad: The Moon

🎧 Cynhelir gan: DJ Katie Owen, mewn partneriaeth â Chaerdydd Creadigol

Cofrestru ar gyfer y digwyddiad.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event