Celfyddydau Ymdrochol: Gweminar Gwybodaeth Cyllid

09/10/2024 - 14:00
Arlein

Postiwyd gan: cadan.aptomos

Ydych chi’n artist sydd â diddordeb mewn archwilio technolegau ymdrochol? Mae Celfyddydau Ymdrochol, rhaglen ar draws y DU sy’n cefnogi artistiaid i greu a rhannu gwaith ymdrochol eithriadol, yn eich gwahodd i ddysgu mwy am y rhaglen ac i gael cefnogaeth wrth wneud cais am gyllid.

Mae’r sesiynau ar-lein hyn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid Celfyddydau Ymdrochol, waeth beth fo’ch profiad. Bydd mynychu un o’r sesiynau hyn yn eich helpu i benderfynu pa un o’n cronfeydd y gallwch wneud cais amdano, cwrdd â’n tîm a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Beth yw Celfyddydau Ymdrychol?

Mae Celfyddydau Ymdrychol yn brosiect newydd 3 blynedd ar draws y DU sydd â'r nod o dorri'r rhwystrau i artistiaid o bob cefndir i greu a chysylltu â thechnolegau ymdrychol, drwy raglen gynhwysol a hygyrch o gyllid, hyfforddiant, ymchwil a digwyddiadau. O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd Celfyddydau Ymdrychol yn cynnig cyfleoedd i artistiaid yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gael mynediad i gymuned o gydweithwyr, hyfforddiant, mentora a chyllid hanfodol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event