Mae Cymru Greadigol wedi'i lansio gan Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas - i sicrhau bod Cymru yn cael ei gweld fel y lle i fusnesau creadigol ffynnu ynddo.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: "Rydyn ni o hyd wedi bod yn genedl o storïwyr. Mae rhannu straeon dros genedlaethau naill ai mewn geiriau, ar ffurf delweddau neu drwy ganu wedi mireinio ein meddyliau creadigol. Heddiw, efallai fod y dechnoleg wedi newid ond yr un yw'r pwrpas: i ddefnyddio ein sgiliau creadigol i gysylltu â phobl, rhannu syniadau, diddanu a darparu gwybodaeth.
“Fy ngweledigaeth i ar gyfer Cymru Greadigol yw creu sefydliad a fydd yn adeiladu ar y llwyddiannau presennol yn y diwydiant sgrin i sbarduno twf ar draws y sector cyfan; gan ddatblygu sylfaen sgiliau o’r radd flaenaf, ymestyn y gefnogaeth y tu hwnt i ffilm a theledu a sicrhau fod Cymru’n cael ei gweld fel y lle delfrydol i leoli eich busnes creadigol."
Prif flaenoriaethau Cymru Greadigol yw:
- Ysgogi twf yn sector Diwydiannau Creadigol Cymru drwy dargedu ffocws yn fwy ar ranbarthau ac is-sectorau;
- Datblygu'r sgiliau cywir ar draws y sector i gynnal twf parhaus, gan gydnabod nad oes modd gwneud hynny heb gydweithio'n agosach â phartneriaid yn y diwydiant a'r undebau llafur;
- Codi safonau a hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb. Bydd hyn yn cynnwys datblygu ymrwymiadau gan bob partner o ran cynhwysiant, cyflog teg ac arferion gweithio.
- Symleiddio ein cymorth ariannol i'r diwydiant creadigol a sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn ddigon cyflym i'r sector. Bydd yr holl gyllid yn cael ei roi drwy gontract economaidd.
- Byddwn yn arwain wrth farchnata a hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i'r byd, drwy frand newydd Cymru Greadigol.
Lansiwyd Cymru Greadigol yng Ngwobrau Sgiliau Creadigol a Diwylliannol Cymru yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ddoe [24 Ionawr], sy'n dangos pa mor bwysig yw sgiliau o fewn y set o flaenoriaethau newydd. Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog hefyd gyhoeddi cyllid a fydd yn cael ei roi i Sgiliau Creadigol a Diwylliannol a'i bartneriaid, er mwyn sefydlu a chyflawni peilot o Raglen Gyrfaoedd Creadigol Cymru. Bydd y rhaglen yn gweithio gyda mwy o bobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o gyfleoedd am yrfa creadigol sydd ar gael yn y sector ac i feithrin diddordeb ynddynt.
I gefnogi'r diwydiant, bydd gan Cymru Greadigol ddwy ffrwd gyllido ar gyfer cyllid cyfalaf a refeniw, gwerth hyd at £7miliwn yn 2020-21, a fydd yn ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i anghenion y sector.
Mae hi’n Wythnos Lleoliadau Annibynnol, ac fe wnaeth y Dirprwy Weinidog hefyd gyhoeddi £120,000 ar gyfer Lleoliadau Lleol i Gynnal Cerddoriaeth.
Bydd y camau nesaf yn cynnwys sefydlu bwrdd cynghori a chyhoeddi hysbysebion ar gyfer recriwtio Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd ar 29 Ionawr.
Mae Gerwyn Evans wedi'i benodi yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol.
Dywedodd Huw Stephens, cyflwynydd y noson wobrwyo:
“Mae’r sector greadigol yn un sydd mor bwysig i ni yng Nghymru. Mae’n dod a gwaith, mae’n creu partneriaethau, a dyma sydd yn cyrraedd corneli pellaf y byd, sef y gwaith creadigol sydd yn dod o Gymru. Rwy’n meddwl ei bod yn beth positif fod cyd-weithio fel hyn yn dod yn fwy amlwg. Yn sicr, mae pethau da iawn yn gallu digwydd wrth i ni gyd-weithio yn y sector greadigol.”
Dywedodd Dr David Banner MBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Cymru Ryngweithiol: "Rwy’n falch iawn gyda lansiad Cymru Greadigol a fydd yn rhoi cymorth hanfodol i'r diwydiant gemau fideo a'r diwydiannau creadigol ehangach yng Nghymru. Mae mentrau fel hyn yn hanfodol er mwyn helpu cwmnïau creadigol Cymru i dyfu, meithrin talent newydd, datblygu cynhyrchion blaengar a chystadlu ar y llwyfan byd-eang yn y pen draw."
Meddai Sarah Mair Hughes, Pennaeth Partneriaethau, Sgiliau Creadigol a Diwylliannol: "Mae Sgiliau Diwylliannol & Creadigol yn gweithio ledled Cymru i helpu i greu cyfleoedd i weithio a dysgu yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol. Mae’r ffocws ar sgiliau gan Cymru Greadigol yn rhoi pwyslais ar ein nodau a bydd yn ein cynorthwyo i gyrraedd mwy o bobl ifanc er mwyn ennyn eu diddordeb yn y sector a'r cyfleoedd sydd ar gael."