Yn siarad yn y digwyddiad roedd:
-
Matt Browning o Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol a Creative England yn ymuno â ni i rannu gwybodaeth am eu partneriaeth newydd gyda'r Start Up Loans Company i gyflwyno argaeledd cyllid busnes cyfnod cynnar. Mae Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol a Creative England (rhan o grŵp Creative UK) wedi ymrwymo i alluogi talent a busnesau creadigol i ffynnu.
-
Catherine Angle, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau Gweledol a Byw yn Chapter Arts, yn siarad am y comisiwn galwadau agored taledig cyfredol ar gyfer gŵyl Experimentica 2021. Maent yn chwilio am geisiadau gan artistiaid sydd wedi'u lleoli yn y DU sy'n ymwneud â chreu perfformiad arbrofol, ysgrifennu, sain, ffilm a fideo, dawns, theatr neu unrhyw gyfrwng byw arall. Maent yn awyddus i glywed gan artistiaid sydd eisiau cymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch eu hymarfer mewn amgylchedd cefnogol a chymdeithasol, sydd am rannu syniadau, ehangu dealltwriaeth a myfyrio ar brofiadau yn ystod yr ŵyl.
Yn siarad yn y digwyddiad roedd:
- Mae Catrin Greaves yn chwilio am bobl rhwng 16 a 25 oed yng Nghaerdydd sy'n ystyried eu hunain yn fenywod i gymryd rhan mewn rhai trafodaethau a gweithdai creadigol dros Zoom, a hynny’n rhan o’i hymchwil a fydd yn sail i’w traethawd gradd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd. Os oes gennych chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod ddiddordeb mewn cymryd rhan, ebostiwch GreavesCM1@caerdydd.ac.uk.
- Prosiect Cadw’n Ddiogel: Mae ProMo-Cymru’n chwilio am bobl ifanc a all fod â diddordeb mewn mynychu grwpiau ffocws i leisio eu barn ar faterion sy'n ymwneud â gwahanol bynciau er mwyn cyfrannu at ymchwil i wybodaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru. Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod yn gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc, ebostiwch dean@promo.cymru erbyn dydd Llun.