Next Up Academy Open Casting Call

07/09/2024 - 13:00
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

Postiwyd gan: cadan.aptomos

Dyma dy gyfle i ymuno â Next Up Academy, cwmni perfformio arloesol sy’n cyfuno hip hop a theatr i uwchraddio lleisiau pobl ifanc, herio canfyddiadau a dod â materion cymdeithasol cyfredol i’r rheng flaen.

Eleni rydyn ni’n cynnal sesiwn castio agored i ddewis uchafswm o 15 o bobl ifanc a fydd yn ffurfio ein cwmni craidd ar gyfer 2024/25. Yn y sesiwn castio byddi di’n cael cyfle i weithio gyda hwyluswyr o’r radd flaenaf o’r byd hip hop a theatr.

Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc 16–25 oed sydd:

  • Â chefndir mewn ‘djing’ / graffiti / ‘mcing’ / brecddawnsio
  • Â chefndir mewn cerddoriaeth / theatr/ dawns / gair llafar
  • O gefndir Du, Asiaidd neu ethnig amrywiol
  • O unrhyw grŵp arall a ymyleiddiwyd

Os cei di dy ddewis i ymuno â Next Up Academy, bydd angen i ti ymrwymo i bob ymarfer a fydd yn cael ei gynnal ar nos Lun 6pm–8pm yn ogystal â phenwythnosau achlysurol cyn y perfformiad (ar 27 Ebrill 2025) felly dylet ti ond wneud cais os wyt ti ar gael.

Oes gen ti unrhyw gwestiynau am y sesiwn castio agored neu Next Up Academy?

E-bostia addysg@wmc.org.uk

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â ti!

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event