Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Gwisgydd Achlysurol
Cyflog: £12 yr Awr
Dyddiad Cau: 03/09/2024
Dyddiad Cyfweld: 04 & 05 Hydref 2024
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant Cymru. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i amrywiaeth eang o gynyrchiadau teithiol blaenllaw, o sioeau cerdd, dawns ac opera i gomedi, yn ogystal â’n cynyrchiadau mewnol ein hunain, cynyrchiadau rhyngwladol, digwyddiadau a chynadleddau. Byddwch yn rhan annatod o'r tîm sydd yn rhoi’r cynyrchiadau hyn ar waith.
Mae'r rôl hon yn cwmpasu rolau Criw Llwyfan, Technegydd, a Gwisgoedd neu o bosibl cyfuniad o'r rhain.
Fel un o'r gwisgwyr achlysurol, eich prif rôl fydd gwasanaethu'r cynyrchiadau ym mhob un o'r gofodau perfformio yn y Ganolfan, ynghyd â gweithio ar ddigwyddiadau wedi'u lleoli o gwmpas yr adeilad a thu allan i adeilad CMC. Gall hefyd olygu cymryd rhan mewn teithiau achlysurol.
Mae’n bosib y bydd angen gwiriad DBS ar gyfer eich rôl.
Gofynion Allweddol:
- Agwedd bositif ac adeiladol gydag agwedd gyfeillgar a hyblyg at gleientiaid a chwmnïau sy'n ymweld
- Sgiliau rhyngbersonol da a’r gallu i weithio mewn tîm a gydag adrannau eraill o fewn CMC, i sicrhau llwyddiant pob cynhyrchiad a digwyddiad
- Profiad o weithio mewn theatr dechnegol gyda gwisgoedd a golchi/cynnal a chadw dillad.
- Y gallu i weithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys dros nos, ar benwythnosau a Gwyliau Banc
- Y gallu i gydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch sy'n gysylltiedig â gweithio cefn llwyfan, gan gynnwys gweithio ar uchder, codi a chario a gweithio gyda thrydan, yn ogystal â gwisgo'r cyfarpar diogelu personol priodol lle bo angen
- Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- Cyflogwr cyflog byw go iawn-Pensiwn NOW
- Hyblygrwydd o ran oriau gwaith - dewiswch y shifftiau/oriau sy'n gweithio o amgylch eich bywyd personol a'ch ymrwymiadau
- Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
- Gwersi Cymraeg am ddim ar-lein
- Cynghreiriaid iechyd meddwl a chefnogaeth
- Gostyngiad o 20% ym mwytai a chaffis CMC
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.