Cynorthwy-ydd Gweithredol i’r Prif Swyddog Masnachol

Cyflog
£26,818 - £28,231
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
25.09.2024
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 11 September 2024

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Cynorthwy-ydd Gweithredol i’r Prif Swyddog Masnachol

Cyflog: £26,818 - £28,231 y flwyddyn

Oriau Gwaith:35 awr yr wythnos

Math o Gytundeb:Parhaol

Dyddiad Cau: 25 Medi 2024

Dyddiad Cyfweld: I’w gadarnhau

Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant Cymru. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Amdanom ni/Ein Hadran:

Ymunodd ein Prif Swyddog Masnachol ym mis Ebrill eleni ac mae’n adeiladu tîm i gyflawni ein Strategaeth Fasnachol, nid yn unig i gynyddu refeniw o’n gweithgareddau masnachol a datblygu a chyflwyno marchnata a chyfathrebu o’r radd flaenaf ond hefyd berchen ar ein cynlluniau codi arian a dyngarol.Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm sy’n adfywio brand CMC a’r gwasanaethau a ddarperir yn y lleoliad Cymreig eiconig hwn.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

Gan adrodd i'n Prif Swyddog Masnachol, byddwch yn darparu cefnogaeth iddynt i yrru'r strategaethau Masnachol a Brand er mwyn cyflawni gweledigaeth strategol CMC.

Byddwch yn darparu cymorth cynllunio, trefniadol a gweinyddol cynhwysfawr i'n Prif Swyddog Masnachol.Byddwch yn cydlynu ac yn paratoi ar gyfer cyfarfodydd, yn cymryd cofnodion a nodi camau gweithredu ac yn hwyluso'r camau hynny hyd at eu cwblhau. Bydd hyn yn cynnwys meithrin perthnasoedd gwych o fewn CMC a gyda phartneriaid allanol allweddol.

Byddwch yn creu, paratoi ac ysgrifennu adroddiadau a chyflwyniadau, ac yn adeiladu dangosfyrddau ar gyfer ystod o randdeiliaid.Byddwch yn cael y cyfle i gynorthwyo ein Prif Swyddog Masnachol i ymchwilio neu reoli prosiectau penodol sy’n cefnogi cyflawniad y Strategaeth Fasnachol neu elfen arall o weledigaeth strategol CMC.

Gellir cyflawni'r rôl hon ar sail hybrid ar ôl cwblhau cyfnod prawf.

Mae’n bosib y bydd angen gwiriad DBS ar gyfer eich rôl.

Gofynion Allweddol:

·Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o gefnogi ar lefel Cyfarwyddwr Gweithredol mewn rôl debyg. Fodd bynnag, os ydych wedi profi sgiliau cynllunio, trefnu a gweinyddol hynod effeithiol mewn rolau blaenorol, gall hwn fod yn gyfle i chi.

·Bydd gennych wybodaeth ymarferol gref o Microsoft 365 gan gynnwys Outlook, Sharepoint, Word, Excel a PowerPoint ynghyd â gallu cyffredinol i ddysgu nid yn unig systemau ond hefyd i amsugno gwybodaeth i gefnogi ystod o weithgareddau.

·Mae angen lefelau da o lythrennedd a rhifedd i ymchwilio neu greu adroddiadau, cyflwyniadau, papurau briffio a dangosfyrddau, gyda lefelau uchel o sylw i fanylder.

·Byddwch wedi profi’r gallu i weithio i derfynau amser tynn mewn rôl flaenorol, gan reoli a blaenoriaethu tasgau sy'n gwrthdaro ac ymateb yn hyblyg i geisiadau.

·Byddwch yn rhagweithiol ac yn atebol am yrru camau gweithredu a chynlluniau ymlaen, gan addasu i anghenion y Prif Swyddog Masnachol a'ch cydweithwyr.

·Bydd gennych brofiad amlwg o weithio gyda gwybodaeth sensitif neu gyfrinachol, gan ymdrin â phob mater mewn modd proffesiynol.

·Byddai'r gallu i siarad Cymraeg o fantais.


Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd âgwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.
  • Cynllun pensiwn sydd yn uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
  • Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi gweithio hyblyg gydag amseroedd dechrau a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredol).


Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event