The City Socials

15/08/2024 - 19:30
The Sustainable Studio, Caerdydd CF11 6AD
Profile picture for user National Theatre Wales

Postiwyd gan: National Theat…

Cysylltwch â chyd-artistiaid a gweithwyr llawrydd sy'n gweithio ym myd y theatr

📅 18:30 - 21:30 dydd Iau 15 Awst
📍 The Sustainable Studio, Caerdydd
💷 Mae'n rhad ac am ddim!

Mae The City Socials yn ddigwyddiad rheolaidd a gynhelir gan NTW TEAM. Maent yn ddigwyddiadau hwyliog a rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio i ddod ag artistiaid sy’n dod i’r amlwg ac ar ddechrau eu gyrfa a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y theatr ynghyd i sgwrsio, rhannu, cwyno a thraethu.

Bydd cyfleoedd i bobl rannu meddyliau a syniadau, a chyflwyno gwaith newydd.

Rhannwch lwyddiannau a brwydrau adeiladu gyrfa yn y celfyddydau a dewch i adnabod eich cyd-gymuned. Drwy gydol y noson, gallwch ddisgwyl:

  • Perfformiad o'r newydd gan un o'n hartistiaid preswyl
  • Cyfleoedd rhwydweithio
  • Gweithdai cyffyrddiad ysgafn

Bydd bwyd a diodydd di-alcohol yn cael eu darparu i ysgogi sgwrs.

Mae croeso i chi alw heibio neu aros am y noson gyfan.

Rydym yn croesawu gweithwyr llawrydd newydd ac artistiaid o bob math ar ddechrau eu gyrfa. Os oes angen cymorth arnoch i fynychu ee dehongli BSL, gofal plant neu gostau teithio, cysylltwch â Justin, ein Cydymaith Creadigol.

Darpariaeth mynediad

Mae'r Sustainable Studio yn hygyrch i gadeiriau olwyn

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event