Celfyddydau Ymdrychol: Diwrnod Ysbrydoliaeth

02/10/2024 - 11:00
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

Postiwyd gan: cadan.aptomos

Ymunwch â'r tîm Celfyddydau Ymdrychol yng Nghaerdydd am ‘Diwrnod Ysbrydoliaeth’ fel rhan o'r rhaglen newydd Celfyddydau Ymdrychol.

Ydych chi'n artist sy'n ymddiddori yn y potensial o ddefnyddio technoleg i drochi cynulleidfaoedd yn eich gwaith? Ymunwch â gweithdy undydd a fydd yn ddadansoddi celfyddydau ymdrychol, yn egluro sut y gallwch chi ddefnyddio technoleg ar gyfer eich ymarfer creadigol ac yn rhoi cyfle i chi brofi amrywiaeth o brofiadau ymdrychol.

 

Beth yw Celfyddydau Ymdrychol?

Mae Celfyddydau Ymdrychol yn brosiect newydd 3 blynedd ar draws y DU sydd â'r nod o dorri'r rhwystrau i artistiaid o bob cefndir i greu a chysylltu â thechnolegau ymdrychol, drwy raglen gynhwysol a hygyrch o gyllid, hyfforddiant, ymchwil a digwyddiadau. O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd Celfyddydau Ymdrychol yn cynnig cyfleoedd i artistiaid yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gael mynediad i gymuned o gydweithwyr, hyfforddiant, mentora a chyllid hanfodol.

 

I bwy mae'r Diwrnod Ysbrydoliaeth hwn?

Rydym yn gwahodd artistiaid o bob cefndir, ffurfiau celf, ac ar bob cam o'u gyrfa gelfyddydol i fynychu. Mae'r gweithdai wedi'u cynllunio fel pwynt cychwyn i artistiaid i ddarganfod sut y gall ymdrin â thechnolegau ymdrychol ddylanwadu ar eu hymarfer creadigol, yn ogystal â sut i wneud cais am gyllid gan y rhaglen Celfyddydau Ymdrychol i ymchwilio ymhellach. Os nad ydych eisoes yn gweithio gyda thechnolegau ymdrychol, yna mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi!

 

Amserlen y Diwrnod: 

 

Bore:

  • Sesiwn ysbrydoliaeth yn cynnwys enghreifftiau o waith ymdrychol
  • Sesiwn cynhyrchu syniadau
  • Sesiwn gwybodaeth am Grant Archwilio Celfyddydau Ymdrychol
  •  

Prynhawn:

  • Sesiwn Arddangos Celf Ymdrychol

 

Bydd cinio ar gael

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event