Celfyddydau Ymdrochol: Sesiwn Galw Heibio Hygyrchedd (gyda Unlimited)

30/10/2024 - 11:00
Arlein

Postiwyd gan: cadan.aptomos

Mae’r rhaglen Celfyddydau Ymdrochol yn anelu at dorri’r rhwystrau i lawr i artistiaid o bob cefndir i greu ac ymgysylltu â thechnolegau ymdrochol. Drwy raglen gynhwysol ac hygyrch o gyllido, hyfforddiant, ymchwil, a digwyddiadau, rydyn ni eisiau creu lle cefnogol i artistiaid archwilio, arbrofi ac ehangu eu harferion creadigol gyda thechnolegau ymdrochol. Ac rydyn ni eisiau dysgu mwy am sut i wneud y sector hwn o waith yn hygyrch i gynulleidfaoedd hefyd - ac i rannu ein canfyddiadau’n eang.

Mae’r sesiwn anffurfiol ar-lein hygyrch hon ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid Celfyddydau Ymdrochol ac sydd eisiau gwybod mwy am sut y byddwn yn cefnogi artistiaid ag anghenion mynediad. Boed hynny’n eich cefnogi chi wrth wneud cais gwych, creu cyfleoedd ymatebol i enillwyr wneud y gorau o’r cyllid a’r hyfforddiant sydd ar gael, neu wthio’r dechnoleg i sicrhau hygyrchedd i bawb.

Mae’r sesiwn hon yn sesiwn galw heibio felly dewch am gymaint neu gyn lleied ag y mynnwch - byddwn mewn grŵp i ddechrau ac yn rhoi lle yn nes ymlaen yn y sesiwn i grwpiau ymwahanu ar gyfer sgyrsiau 1-1 os dymunir.

Dewch draw, cyfarfodwch â Jo Verrent (Cyfarwyddwr, Unlimited) a Ruth McCullough (Cynhyrchydd Gweithredol, Celfyddydau Ymdrochol) a byddwn yn ateb eich cwestiynau sy’n ymwneud â mynediad.

Hygyrchedd ar gael ar gyfer y digwyddiad:

Byddwn yn darllen ac yn disgrifio unrhyw beth sydd ar y sgrin, gan ddarparu isdeitlau byw (heb eu cynhyrchu gan AI) ac yn sicrhau cyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) - rhowch wybod i ni os oes unrhyw beth arall sydd ei angen arnoch trwy’r ffurflen archebu. Dylid gwneud ceisiadau am hygyrchedd erbyn 1 Hydref 2024 i roi amser i ni ymateb.

Beth yw Celfyddydau Ymdrychol?

Mae Celfyddydau Ymdrychol yn brosiect newydd 3 blynedd ar draws y DU sydd â'r nod o dorri'r rhwystrau i artistiaid o bob cefndir i greu a chysylltu â thechnolegau ymdrychol, drwy raglen gynhwysol a hygyrch o gyllid, hyfforddiant, ymchwil a digwyddiadau. O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd Celfyddydau Ymdrychol yn cynnig cyfleoedd i artistiaid yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gael mynediad i gymuned o gydweithwyr, hyfforddiant, mentora a chyllid hanfodol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event