Paned I Ysbrydoli: Caerffili

25/07/2025 - 10:00
8 The Twyn, Caerphilly CF83 1JL
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Bydd ein Paned i Ysbrydoli cyntaf yng Nghaerffili yn cael ei gynnal yn Y Banc, 1 Cardiff Road, Caerphilly, CF83 1FQ mewn cydweithrediad â Cynefin yn Y Banc.

Ymunwch â ni i gwrdd, cysylltu a dysgu gan pobl greadigol eraill, boed eich bod newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau, yn ein Paned i Ysbrydoli cyntaf yng Nghaerffili.

Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal Paned i Ysbrydoli, sef cyfle i artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol ddod ynghyd. Mae’r digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â’r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tri C pwysig – cysylltu, creadigrwydd a chaffein.

Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs ardull 'TED-talk' ar bwnc sy’n berthnasol ar draws pob sector creadigol, ac yna awr anffurfiol i feithrin perthnasoedd, rhannu gwybodaeth ac archwilio cyfleoedd newydd.

Thema i'w gadarnhau!

Register your free place here.

photos of the y banc venue space where the cuppa is taking place

Mae Y Banc yn edrych allan ar draws Maes Parcio'r Twyn ac mae wedi'i leoli gyferbyn â Cherflun Tommy Cooper.

Mae'r lleoliad 7 munud o waith cerdded o orsaf drenau Caerffili.

What3Words /// indoor.scale.loved

Ystyriaethau hygyrchedd:

Mae gennym fynediad i gadeiriau olwyn, llawr gwastad drwyddo draw a lle parcio i bobl anabl gerllaw.

Mae cyfleusterau newid babanod yn ein toiled hygyrch ar y llawr gwaelod.

Byddwn hefyd yn darparu ar gyfer dietau di-glwten a fegan.

Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd penodol neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth cyn y digwyddiad hwn, cysylltwch â creativecardiff@cardiff.ac.uk

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.