Mae WNO yn rhannu grym cerddoriaeth glasurol ac opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Rydym yn chwilio am Bartner Busnes AD profiadol i ymuno gyda’n tîm a chefnogi Pennaeth Pobl a Thrawsnewid wrth yrru trawsnewidiad llwyddiannus o’n systemau a gweithrediadau AD a Chyflogres. Bydd y rôl yma’n gweithio’n agos gyda rheolwyr a rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod prosesau newydd yn cael eu darparu a’u mabwysiadu’n esmwyth.
Byddwch yn arwain rhoi systemau AD a Chyflogres estynedig ar waith, goruchwylio darparu prosesau effeithlon sy’n cydymffurfio, a rheoli tîm gweithrediadau AD bach. Mae hon yn rôl hanfodol i rywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar newid ac sy’n angerddol dros wella systemau a gwasanaethau pobl.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?
-
Cyfrannu at brosiectau a mentrau AD mewn cydweithrediad gyda’r tîm Pobl a Diwylliant
-
Darparu cymorth AD cyffredinol ar draws y sefydliad
-
Cynorthwyo i roi systemau cyflogres a HRIS newydd ar waith
-
Hyfforddi ac arwain rheolwyr ar Bolisïau, Gweithdrefnau ac Arfer Da Adnoddau Dynol
-
Adolygu a chynnal polisïau a gweithdrefnau AD
-
Cynghori ar recriwtio a chynghori penodi rheolwyr gydag anghenion adnoddau
-
Rheoli achosion cysylltiadau gweithwyr cymhleth
-
Cefnogi gweithrediadau AD o ddydd i ddydd yn ôl y galw
-
Dadansoddi ac adrodd ar ddata pobl er mwyn cefnogi gwneud penderfyniadau
Beth sydd ei angen arnoch?
-
Profiad AD cyffredinolwr gyda dealltwriaeth dda o brosesau craidd AD
-
Y gallu amlwg i drafod, dwyn perswâd a dylanwadu ar randdeiliaid ar bob lefel
-
Profiad gyda rhoi systemau HRIS a chyflogres ar waith (iTrent yn ddymunol)
-
Hyder wrth drin perthnasoedd gweithwyr cymhleth a gweithio mewn amgylchedd lle mae undebau
-
Wedi cymhwyso gyda CIPD neu brofiad cyfwerth
-
Sgiliau trefnu a chyfathrebu cadarn, gyda’r gallu ymdopi gyda bod dan bwysau a chwrdd â therfynau amser
-
Agwedd ragweithiol, gydweithredol ac ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
-
Gwybodaeth dda o GDPR a gweithrediadau cyflogres
Beth ydym ni’n gallu ei gynnig i chi?
Cyflog Cystadleuol
|
£45,000 y flwyddyn
|
Gwyliau Blynyddol
|
Mae gan gydweithwyr yr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n mynd o 1af Medi i 31 Awst. Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn. Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod. |
Pensiwn |
Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol. |
Aelodaeth Campfa[Text Wrapping Break] |
Mae’r holl weithwyr yn gymwys ar gyfer y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy’n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd. |
Gostyngiadau |
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda gwesty Future Inn yng Nghaerdydd. |
Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park[Text Wrapping Break] |
Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC). |
Rhaglen Cymorth i Weithwyr[Text Wrapping Break] |
Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori cyfrinachol am ddim sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr. |
Gwersi Cymraeg[Text Wrapping Break] |
Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.
|
Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg fel ei gilydd.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â: Heledd Davies ar heledd.davies@wno.org.uk