Dan y chwyddwydr: Gavin Clifton (The Disabled Writer)

Ar gyfer cyfweliad 'Dan y chwyddwydr...' y mis hwn, siaradodd Caerdydd Creadigol â'r awdur plant, blogiwr anabledd a chyfansoddwr caneuon, Gavin Clifton, a adnabyddir hefyd gan ei frand 'The Disabled Writer'.

Dysgwch fwy am Gavin, ei waith a'r broses o sefydlu ei frand ei hun:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 16 June 2025

An image of Gavin smiling

Soniwch wrthym ni am eich ymarfer creadigol

Gavin Clifton ydw i, ac mae pobl hefyd yn fy nabod fel The Disabled Writer. Dwi'n byw gyda pharlys yr ymennydd a nam ar fy lleferydd. Mae ysgrifennu wedi rhoi llais, llwyfan, a ffordd hygyrch a chynhwysol i mi fynegi fy nheimladau mewnol. Dyma'r offeryn cyntaf un oedd gen i wrth law i ddatgelu popeth i bawb ei weld a'i ddarllen. Dwi'n cofio'r tro cyntaf i mi ysgrifennu am fy mhrofiadau gydag anabledd, a'r ymdeimlad ysgubol o rym roddodd hynny i mi. Bryd hynny, a hyd heddiw, mae'n offeryn cyfathrebu effeithiol cyn i gyfathrebu estynedig amgen ddod yn ddull cyfathrebu arall i fi.

Dwi'n awdur llyfrau plant sy'n gwerthu'n dda, yn flogiwr anabledd, yn gyfansoddwr caneuon, ac yn siarad yn gyhoeddus i rymuso anabledd. Dwi'n ysgrifennu o brofiad byw, boed yn fy hunangofiant, Cerebral Palsy And Me, blogiau ar gynrychiolaeth anabledd, neu lyfrau plant fel Max and the Magic Wish a Paddy the Polar Bear Teddy.

Mae gen i brofiad helaeth hefyd yn cyfansoddi geiriau caneuon, ac wedi ysgrifennu i artistiaid fel Peter Karrie o The Phantom of the Opera a'r band adnabyddus o'r 80au, The Korgis, a chyd-greu cerddoriaeth gynhwysol trwy'r Word Groove Collective, sy'n dod â phobl greadigol anabl a heb anabledd ynghyd yn defnyddio technoleg eyegaze a chynorthwyol. Mae fy ngwaith yn herio rhagdybiaethau, yn sbarduno sgyrsiau, ac yn meithrin gwell dealltwriaeth o anabledd trwy wahanol ffurfiau o fynegiant, gan gynnwys geiriau llafar, ysgrifenedig a chaneuon.

Pam benderfynoch chi sefydlu'r brand ‘The Disabled Writer’?

Mae bod yn amlwg, a hynny mewn ffordd lle gallaf i ddysgu i bobl, yn enwedig cenedlaethau iau, ei bod hi'n iawn bod yn wahanol a derbyn eich hun a phobl eraill hefyd wedi bod yn bwysig i mi erioed. Fel person creadigol anabl, doeddwn i ddim eisiau label meddal, aneglur.

Mae The Disabled Writer yn gwneud yn union yr hyn mae'n ei ddweud. Mae'n mynd yn syth at y pwynt ac yn gosod anabledd yn blwmp ac yn blaen yn y canol, lle dylai fod. Daeth yn sgil blynyddoedd o ddod i nabod fy hun, dysgu derbyn sut rydw i'n symud, sut rydw i'n siarad, a sut mae'r byd yn fy ngweld i. Dwi’n dal i fod ar y daith honno, os dwi'n onest.

Ond rhoddodd y brand ffordd i mi gymryd perchnogaeth ac ysgrifennu a siarad ar fy nhelerau fy hun ac yn fy amser fy hun. Mae'n dweud wrth bobl ifanc anabl nad oes angen iddyn nhw guddio'r pethau hynny sy'n eu gwneud nhw'n wahanol, boed y ffordd maen nhw'n siarad, yn symud, yn meddwl neu’n cyfathrebu. Nid diffygion i'w trwsio neu eu cuddio yw'r pethau hyn; maen nhw'n rhan o bwy ydych chi. Gallwch fod yn falch, yn greadigol, a chael eich parchu o hyd heb orfod newid eich hun i wneud i eraill deimlo'n gyfforddus.

Gavin Clifton

Pa awgrymiadau a chyngor fyddech chi'n eu cynnig i bobl greadigol sydd am sefydlu eu brand eu hunain?

Peidiwch ag aros am ganiatâd. Fydd neb yn ei roi i chi, dywedwch yr hyn rydych chi angen ei ddweud, a thynnu sylw at eich celfyddyd greadigol; chwalu'r rhwystrau camsyniol, a dilyn eich breuddwyd bob amser ar eich telerau eich hun. Dewiswch enw sydd yn dweud rhywbeth amdanoch CHI oherwydd mae cysondeb a gonestrwydd yn gwneud i bobl wrando. Gall syndrom y twyllwr eich taro unrhyw bryd os ydych chi'n anabl ac yn tynnu sylw atoch chi eich hun. Ond mae eich stori'n bwysig, a rhan o'r stori yn unig yw anabledd, nid y cyfan. Peidiwch â'i guddio, ond peidiwch â theimlo ei fod yn gorfod esbonio popeth amdanoch chi chwaith. Gadewch i bobl weld y darlun llawn pan fyddwch chi'n teimlo'n gyfforddus yn ei rannu, a bydd pobl yn deall. Pan fyddwch chi'n postio ar gyfryngau cymdeithasol, meddyliwch pwy sy'n gwylio. Bydd pobl eraill ag anableddau yn ei weld ac yn teimlo'n llai unig.

Efallai y bydd Cyfeillion yn dysgu rhywbeth o'r diwedd. Dywedwch rywbeth di-flewyn-ar-dafod a gonest, rhywbeth y gallai wneud i bobl stopio a meddwl go iawn. Gallwch wneud gwahaniaeth drwy fod yn driw i chi eich hun a chreu brand cryf o fewn y gymuned anabledd, a'r tu hwnt, YN EICH FFORDD CHI!

An image of Gavin Clifton

Beth ydych chi’n gweithio arno ar hyn o bryd?

Dwi'n disgwyl y bydd fy e-lyfr nesaf, Empowering Communication, yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2025. Mae'n rhywbeth rydw i wedi bod yn awyddus i'w ysgrifennu ers tro. Mae'n trafod sut mae defnyddwyr AAC fel fi yn profi bywyd bob dydd a beth ddylai dealltwriaeth a chefnogaeth wirioneddol ei olygu, y tu hwnt i'r pethau sylfaenol y mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl eu bod yn eu gwybod. Mae'n gyffrous cael rhannu'r prosiect gyda chi, a gobeithio y bydd yn sbarduno sgyrsiau pwysig ac yn arwain at newid cadarnhaol. Cadwch olwg am y newyddion diweddaraf!

Yna yn yr hydref, byddaf i’n hunan-gyhoeddi llyfr plant newydd, Anya and the Enchanted Wheelchair. Mae'n adrodd stori merch anabl sy'n cael ei chludo i fyd hudolus lle mae ei chadair olwyn yn rhoi pwerau annisgwyl iddi. Mae'n stori hwyliog, ddychmygus sy'n gosod anabledd yn y canol ond heb fod yn broblem i'w datrys. Byddaf i’n chwilio am Ddarllenwyr Adolygu tua mis Awst, felly cadwch olwg.

Y tu ôl i'r llenni, dwi hefyd yn llunio rhywbeth tymor hirach, adnodd ar-lein i'w lawrlwytho sy'n dwyn ynghyd bopeth dwi wedi'i ddysgu fel awdur anabl. Bydd yn ymdrin â phrofiad byw, ysgrifennu gyda phwrpas, hygyrchedd, a sut i ddefnyddio eich llais heb ei wanhau. Dwi'n angerddol dros greu adnoddau sy'n grymuso ac yn ysbrydoli, ac yn anelu at lansio ddiwedd 2025 neu ddechrau 2026. Alla i ddim aros i gael rhannu hyn gyda chi!

Sut gall ein cymuned ddysgu mwy am eich gwaith a chymryd rhan?

  • Gwefan: www.thedisabledwriter.co.uk
  • Instagram/Facebook/TikTok/LinkedIn: @TheDisabledWriter
  • Edrychwch am fy llyfrau ar Amazon neu gofynnwch i'ch ysgol neu sefydliad lleol drefnu ymweliad gen i
  • Os ydych chi’n berson creadigol hefyd, mae croeso i chi gysylltu a chydweithio. Dwi wastad yn awyddus i wneud hynny, yn enwedig os ydych chi'n gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, sy’n hygyrch, ac â safbwynt cynhwysol. Cofiwch, rydyn ni i gyd yn rhan o gymuned fwy, a chysylltu â'n gilydd yw'r hyn sy'n gwneud ein lleisiau'n gryfach a'n heffaith yn fwy.
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.