Mae disgwyl i rai o enwau mwyaf cyffrous y byd cerddoriaeth indie, hip-hop a dawns gyrraedd Caerdydd cyn hir, wrth i ŵyl Immersed 25 ddatgelu’i rhestr o berfformwyr. A honno’n cael ei chynnal ar 22 Mawrth 2025, bydd Immersed 25 yn rhoi llwyfan i amrywiaeth o ddoniau ac i fynegiant creadigol o bob math yn Tramshed, Caerdydd.
Myfyrwyr y diwydiannau creadigol ym Mhrifysgol De Cymru sy’n curadu’r ŵyl, gyda chefnogaeth Cymru Greadigol. Nod y digwyddiad yw codi ymwybyddiaeth o Music Declares Emergency, yr elusen sy’n gweithio yn y diwydiant i dynnu sylw at y newid yn yr hinsawdd. O dan y thema ‘Adfywio’, mae’r ŵyl yn ailddychmygu dyfodol cynaliadwy, gan geisio ysbrydoli newid cadarnhaol yn y byd cerddoriaeth, ffilm, celf, theatr a ffasiwn.
Ar ôl iddyn nhw werthu pob tocyn i’w sioe ym Mryste, cloi noson yn y Roundhouse yn Llundain, a theithio drwy Awstralia a Seland Newydd, mae disgwyl eiddgar am sioe gyntaf erioed Frankie Stew & Harvey Gunn yng Nghymru. A hwythau’n enwog am gydweithio ag artistiaid fel Loyle Carner, Sam Tompkins a Kojey Radical, dyma gìg sy’n addo perfformiad egnïol ac emosiynol bythgofiadwy gan y ddeuawd rap o Brighton.
Yn eu cefnogi, bydd Porij, a fydd yn dod â’u cyfuniad grymus o ffync, synth-pop a lo-fi i brif lwyfan Immersed. Yno hefyd bydd y DJ a’r Cynhyrchydd, Douvelle19, a fydd yn sbinio’i frand unigryw o gerddoriaeth ddawns sydd wedi’i hysbrydoli gan garage.
Bydd dros ddeg ar hugain o artistiaid a bandiau, gan gynnwys cynllun cerddoriaeth cymunedol Caerdydd, Sound Progression, yn perfformio ar bedwar llwyfan yr ŵyl wrth i honno ddychwelyd am y seithfed tro.
“Mae pwyslais Gŵyl Immersed ar dalent, creadigrwydd a chynhyrchu yn amhrisiadwy” Huw Stephens