Gweinyddwr y Rhaglen Gymunedol / Derbynnydd

Cyflog
26,000
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
26.02.2025
Profile picture for user lizzy

Postiwyd gan: lizzy

Dyddiad: 28 January 2025

Mae NoFit State Circus yn chwilio am Gweinyddwr / Derbynnydd brwd a threfnus sydd ag angerdd gwirioneddol dros y celfyddydau a'n gwaith ni.

Oes gennych chi sgiliau trefnu gwych a sgiliau TG rhagorol? Ydych chi’n ardderchog am weithio o’ch pen a’ch pastwn eich hunan a chanfod atebion? Ydych chi’n dda am gyfathrebu? Ydych chi’n mwynhau cydweithio â phobl ac a ydych wir yn ymddiddori yn yr hyn rydym yn ei wneud ac yn frwd drosto? 

Mae Gweinyddwr y Rhaglen Gymunedol/ Derbynnydd yn swydd allweddol a bydd yn cynnig cymorth gweinyddol effeithlon i dîm y Rhaglen Gymunedol a tîm y dderbynfa ac i’w gweithgareddau.

 

Ymunwch â ni!

https://www.nofitstate.org/gyrfaoedd

Darllenwch y Disgrifiad o'r Swydd sy'n atodedig i ganfod manylion pellach am y rôl. Gofynnir i chi lenwi’r ffurflen gais a’r ffurflen fonitro cyfle cyfartal.  Anfonwch eich ceisiadau at jobs@nofitstate.org

 

Os teimlwch y gallech wneud y swydd hon ond nad ydych yn ticio pob bocs ym manyleb y person, neu os credwch y byddai arnoch angen tipyn o hyfforddiant neu gefnogaeth ychwanegol er mwyn llwyddo’n llwyr, byddem yn dal wrth ein bodd yn clywed wrthych.

 

Mae NoFit State yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

Os oes arnoch angen fformat gwahanol neu help â’r broses ymgeisio oherwydd anghenion penodol, cysylltwch â lizzy@nofitstate.org neu ffonio 02921 321 026

 

 

Oriau Gwaith:  Swydd lawn amser

Cyflog: £26,000 y flwyddyn

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am, Dydd Mercher 26 Chwefror 2025

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event