Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn awyddus i benodi Pennaeth Ddatblygu llawn-amser i ymuno a’r tîm.
Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ein cenhadaeth yw grymuso'r genhedlaethnesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru.
Mae rôl Pennaeth Datblygu yn allweddol i wireddu'r weledigaeth strategol honno. Gan weithio fel rhan o dîm staff cyfeillgar, angerddol ac arbenigol, byddwch yn mwynhau llwythgwaith amrywiol, gan gael effaith ar fywydau miloedd o bobl ifanc ledled Cymru.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â hanes o godi arian, marchnata ac arweinyddiaethlwyddiannus, sy'n rhannu ein hangerdd a'n gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sector celfyddydau a sefydliad cynhwysol ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu bod ynnhw eu hunain yn llawn. Rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir ac amgylchiadau. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw gefnogaeth neu addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch i'ch helpu i gwblhau eich cais - neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu'r sefydliad.